Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Parhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i gael eu gwisgo mewn ysgolion yng Nghymru hyd nes y clywn yn wahanol.

Er bydd symud at lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr yn golygu llacio nifer o gyfyngiadau, bydd ysgolion yn parhau i ddilyn rheolau ynghylch gorchuddion wyneb. Bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu ar y pwynt adolygu tair wythnos nesaf, ar 10 Chwefror.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae ysgolion uwchradd wedi cynnal y defnydd o orchuddion wyneb fel rhan o’u mesurau rheoli Covid-19. Golyga hyn bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo mewn ardaloedd cymunedol fel coridorau a neuaddau, yn ogystal â mewn ystafelloedd dosbarth.

Nid oes gofyn i ddisgyblion ysgolion cynradd y fwrdeistref sirol wisgo gorchuddion wyneb.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rydym yn gwbl glir ei bod yn hanfodol i blant a phobl ifanc fod yn yr ysgol, ar gyfer dysgu ac er mwyn eu llesiant.

“Bydd y defnydd o orchuddion wyneb yn parhau mewn ysgolion am y tro, fel y maent yn ofynnol yn y rhan fwyaf o ardaloedd cyhoeddus.

“Yn ddibynnol ar y dystiolaeth, byddwn yn cadarnhau yn y pwynt adolygu tair wythnos nesaf ar 10 Chwefror, a ddylai ysgolion ddychwelyd i wneud penderfyniadau lleol ar liniaru ai peidio erbyn dechrau'r hanner tymor newydd, ar 28 Chwefror.

"Ein ffocws o hyd yw sicrhau dysg a lleihau ar darfu. Rwyf eisiau pwysleisio i ddysgwyr, ysgolion a cholegau y bydd arholiadau ac asesiadau eleni’n parhau, oni bai bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn ei wneud yn amhosibl eu cynnal – ond nid ydym yn rhagweld hynny.”

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r cadarnhad y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i gael eu gwisgo yn ein hysgolion uwchradd.

Mae gorchuddion wyneb eisoes yn cael eu gwisgo yn ein hysgolion fel rhan o fesurau rheoli lleol, ac yn ffordd effeithiol o helpu i ddiogelu staff a disgyblion wrth liniaru’r risg o ledaenu Covid-19.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod pob ysgol wedi cael monitor CO2 er mwyn helpu i reoli awyru mewn dosbarthiadau, ac mae £95m wedi’i gyflwyno’n genedlaethol i gefnogi gwaith cynnal a chadw fel atgyweirio ffenestri neu osod hidlwyr aer newydd mewn unedau trin aer.

Chwilio A i Y