Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Parcio ceir yn rhad ac am ddim i gefnogi ailagor siopau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd defnydd o feysydd parcio a gynhelir gan y cyngor yng nghanol trefi yn rhad ac am ddim rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn y diweddariad diweddar gan Lywodraeth Cymru sy'n galluogi siopau nad ydynt yn hanfodol i ailagor o heddiw ymlaen (22 Mehefin).

Darperir y consesiwn i barcio ceir am ddim fel rhan o amrediad y cyngor o gymorth cyffredinol ar gyfer busnesau lleol. Yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio aml-lawr Rhiw a Stryd Bracla yn ogystal â'r maes parcio awyr agored y tu ôl i siop Wilkinsons.

Ym Mhorthcawl, bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio Hillsboro a Stryd Ioan. Bydd y maes parcio yn Salt Lake yn aros ar gau dros dro nes ceir rhybudd pellach.

Nid yw'r maes parcio rhad ac am ddim yn cynnwys maes parcio Rest Bay, sydd bellach ar agor unwaith yn rhagor gyda pheiriannau talu ac arddangos yn cael eu defnyddio. Mae llwybr pren Rest Bay wedi'i agor yn ogystal, ac mae parcio rhad ac am ddim yn parhau i fod ar gael ym Mhencoed a Maesteg.

Yn ogystal, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu hyfforddiant, cyngor a deunyddiau am ddim i fusnesau lleol sydd wedi cael eu cynllunio i'w helpu i ailagor.

Mae adnodd ar-lein newydd wedi cael ei lanlwytho i wefan y cyngor sy'n darparu manylion am gwestiynau cyffredin fel sut y gall busnesau newid cynllun eu safleoedd i helpu i ddiogelu staff a chwsmeriaid, a oes angen gwisgo masgiau wyneb neu beidio, pa newidiadau y gall siopwyr eu disgwyl, pam y dylid annog talu digyswllt, a mwy.

Mae'r cyngor wedi bod yn darparu hyfforddiant ailgychwyn am ddim i fusnesau, ac mae wedi sicrhau bod offer ar gael, fel gardiau rhag tisian, y gellir eu gosod o amgylch tiliau a chownteri siopau.

Bydd busnesau sy'n cwblhau'r hyfforddiant yn derbyn tystysgrifau a sticeri ffenestr y gellir eu harddangos i roi sicrwydd pellach i siopwyr.

Mae'r cyngor hefyd wedi dosbarthu mwy na £28 miliwn mewn cymorth ariannol i 2,256 o fusnesau lleol ers dechrau'r pandemig.

Mae angen yr holl help y gallant ei gael ar fusnesau lleol i wynebu heriau pandemig y coronafeirws, ac rwy'n falch o gadarnhau y bydd y cyngor yn darparu'r consesiwn parcio rhad ac am ddim hwn fel rhan o'n cefnogaeth gyffredinol.

Nid yw'r pandemig drosodd, ac mae'n rhaid i fusnesau a chwsmeriaid fel ei gilydd barhau i ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol llym a mesurau eraill sydd wedi'u cynllunio i gyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Defnyddiwch ein hadnodd ar-lein i gael rhagor o fanylion

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau

neu cysylltwch ag employability@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643428 i gadw lle ar gyfer yr hyfforddiant ailagor.

Chwilio A i Y