Parcio am ddim yng nghanol y dref yn parhau
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 26 Awst 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y gellir defnyddio'r meysydd parcio yng nghanol y dref a reolir gan y cyngor am ddim am fis ychwanegol, gan barhau dan fis Medi.
Mae hyn ar gael ym meysydd parcio aml-lawr Rhiw a Stryd Bracla yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â'r maes parcio awyr agored y tu cefn i Wilkinsons.
Ym Mhorthcawl, mae hyn ar gael ym meysydd parcio Hillsboro a Stryd John.
Ymhellach, o 1 Hydref tan 31 Mawrth, bydd y tair awr gyntaf am ddim ym maes parcio Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd parcio am ddim rhwng hanner dydd a 3pm o 1 Hydref tan 31 Mawrth ym maes parcio Stryd John, Porthcawl.
Rydym yn gobeithio y bydd siopwyr yn manteisio ar y parcio am ddim ychwanegol yng nghanol y dref am fis arall, ac yn cael eu hannog i ddychwelyd wrth i'r fenter tair awr o barcio am ddim gychwyn ym maes parcio Rhiw a Stryd John ym Mhorthcawl o fis Hydref tan ddiwedd Mawrth.
Mae busnesau lleol angen yr holl help sy'n bosib i ymdopi â heriau'r cyfnod hwn, rwy'n falch ein bod ni'n parhau â'r consesiwn parcio am ddim fel rhan o'n cefnogaeth iddyn nhw.
Dywedodd aelod cabinet dros gymunedau, Richard Young
Dywedodd Beth Daniel, is-gadeirydd Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr: "Ar ran Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn falch o glywed fod y cynnig parcio am ddim gan BCBC wedi ei ymestyn, a hoffwn ddiolch i BCBC am eu cymorth gyda'r cynnig hwn, ynghyd â'r gefnogaeth arbennig a dymuniadau rydym wedi'u derbyn gan ein holl gwsmeriaid sydd wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod masnachu heriol hwn.
"Mae'n ymddangos bod cwsmeriaid wedi gwrando'n astud ar y neges i 'siopa'n lleol' ac mae eu cefnogaeth wedi bod yn galonogol tu hwnt. Bydd y cynnig i barcio am ddim yn sicr yn annog siopwyr i barhau i ddangos eu cefnogaeth i fusnesau yng nghanol y dref ac yn y farchnad dan do."