Parcio am ddim ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 02 Rhagfyr 2020
Gall siopwyr, ymwelwyr a masnachwyr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fanteisio ar y cynnig parcio am ddim y Nadolig hwn.
Gan ddechrau ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr, ym Mhen-y-bont ar Ogwr bydd parcio am ddim ar ôl 10am ym meysydd parcio aml-lawr Rhiw a Cheapside a reolir gan y cyngor, y maes parcio y tu ôl i Wilkinsons, yn Heol Tremains ac yn Heol Tondu. Ym Mhorthcawl, bydd parcio am ddim ar ôl 10am yn Stryd John ac yn Hillsboro Place.
Wedi ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'i gefnogaeth barhaus i fasnachwyr yn ystod pandemig y coronafeirws, bydd y parcio am ddim ar gael tan ddydd Iau 31 Rhagfyr ac mae'n ymuno â'r cyfleusterau am ddim sydd eisoes ar gael ym Maesteg a Phencoed.
Mae effaith pandemig coronafeirws Covid-19 yn parhau i gael ei theimlo, ac mae'r cyngor eisiau gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi busnesau a siopwyr lleol.
P'un ai drwy ddarparu amrywiaeth o gyfraddau rhentu rhatach ac am ddim ar gyfer masnachwyr stondinau marchnad, prosesu miliynau o bunnoedd o gymorth ariannol, cynnig hyfforddiant ac offer cychwyn yn ôl am ddim neu drwy gynigion parcio am ddim fel hyn, rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau i oroesi drwy'r cyfnod anodd hwn.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed i gyd yn cynnig amrywiaeth eang o siopau, atyniadau a lleoedd i fwyta neu yfed, felly rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr a siopwyr yn prynu'n lleol, ac yn dod i weld drostynt eu hunain beth all y fwrdeistref sirol ei gynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau