Parcio am ddim dros y Nadolig
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 04 Rhagfyr 2019
Rydyn ni’n rhoi anrheg Nadolig buan i siopwyr, ymwelwyr a masnachwyr – bydd parcio am ddim ar ôl 10am bob dydd Sadwrn drwy gydol mis Rhagfyr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu'r parcio am ddim a bydd ar gael ym maes parcio Hillsboro ym Mhorthcawl a maes parcio aml-lawr y Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd hyn ar ben y parcio am ddim sydd ar gael ym Maesteg a Phencoed drwy gydol y flwyddyn.
Bwriad y parcio am ddim yw cefnogi masnachwyr lleol cyn y Nadolig a’r Flwyddyn newydd. I gyd-fynd â hyn, bydd groto Siôn Corn ar gael rhwng 10am a 4pm yn Carnegie House ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr a dydd Sadwrn 14 Rhagfyr.
Mae cyfnod y Nadolig yn un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn, ac rydyn ni’n falch o gefnogi ein busnesau lleol drwy gynnig parcio am ddim. Mae amrywiaeth helaeth o siopau, atyniadau a lleoedd bwyta ac yfed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed, ac rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr a siopwyr yn prynu’n lleol ac yn dod i weld beth sydd gan y fwrdeistref sirol i'w gynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr