Parc sglefrfyrddio a BMX newydd yn dod i Bencoed
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Medi 2018
Mae'r broses o sefydlu parc sglefrfyrddio a BMX newydd ym Mhencoed wedi cychwyn.
Mae Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi awdurdodi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cwrt tennis sy'n weddill ym Maes Hamdden Pencoed i Gyngor Tref Pencoed er mwyn iddynt allu trawsnewid y safle.
Roedd cyngor y dref wedi mynegi eu diddordeb mewn Trosglwyddiad Asedau Cymunedol yn wreiddiol ym mis Ionawr 2017, wedi ymgymryd eisoes â’r gwaith o redeg y cwrt tenis arall yn safle Ffordd Felindre yn 2013, y gwnaethant ei drosi wedyn yn ardal aml-gemau.
I gefnogi eu cynlluniau, llwyddodd Cyngor Tref Pencoed i sicrhau grant o £20,000 gan Gronfa Cyngor Tref a Chymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth eleni i’w roi tuag at y gost gyffredinol o £59,000 ar gyfer y parc sglefrfyrddio. Yna rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Ebrill 2018.
Mae'r Trosglwyddiad Asedau Cymunedol hwn yn enghraifft ragorol arall o drefniant sydd o fudd i bob parti, felly rwyf wrth fy modd fy mod wedi cwblhau'r busnes.
Nid yw'r cwrt tennis yn cael ei ddefnyddio lawer oherwydd ei gyflwr gwael, ac o ystyried ein sefyllfa ariannol bresennol nid ydym mewn sefyllfa i wella'r cyfleuster yn anffodus.
Mae Cyngor Tref Pencoed wedi dangos brwdfrydedd gwirioneddol mewn ymgymryd â'r gwaith o redeg y safle ers llawer o flynyddoedd, gan eu bod yn awyddus i greu mwy o gyfleusterau ym Mhencoed a fydd yn cael eu croesawu gan bobl ifanc yn yr ardal. Maent hefyd wedi nodi y byddant yn ystyried darparu cyfleusterau tennis mewn mannau eraill yn y dyfodol. Felly mae'n sefyllfa lle mae pawb yn ennill.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cyngor Tref Pencoed wedi cadarnhau y bydd y parc sglefrfyrddio a BMX yn cael ei archwilio'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel ac yn daclus. Bydd rhwystr acwstig o 2.5m o uchder yn cael ei ddarparu o gwmpas y parc sglefrfyrddio i sicrhau'r amhariad sŵn lleiaf.