Parc sglefrfyrddio a BMX newydd Pencoed
Poster information
Posted on: Dydd Llun 10 Mehefin 2019
Mae hen gwrt tennis oedd yn cael ei danddefnyddio wedi cael ei drawsnewid yn llwyr i fod yn barc sglefrfyrddio a BMX newydd poblogaidd gwerth £59,000.
Wedi’i leoli ar Heol Felindre ym Mhencoed, mae cynllun y parc sglefrio newydd yn cynnwys rampiau amrywiol ac ‘elfennau stryd’ sy’n llifo’n hwylus i’w gilydd i greu amgylchedd addas ar gyfer pobl o bob oedran a gallu.
Cafodd y safle gwreiddiol ei drawsnewid ar ôl gweld ei fod yn amhoblogaidd a phur anaml yn cael ei ddefnyddio gan bobl ifanc yr ardal.
Ar ôl sefydlu man gemau aml-ddefnydd ar Heol Felindre, mynegodd Cyngor Tref Pencoed ddiddordeb mewn cymryd y safle drwy broses Trosglwyddo Ased Cymunedol ym mis Ionawr 2017.
I gefnogi eu cynlluniau, aethant ati i sicrhau grant gwerth £20,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ‘Gronfa’r Cynghorau Tref a Chymuned’, gan helpu i dalu am gost lawn y parc o £59,000.
Mae’n wych gweld y parc sglefrio newydd yn agor mewn pryd i’r sglefrfyrddwyr lleol, y beicwyr BMX a’r reidwyr sgwter ei fwynhau dros fisoedd yr haf.
Roedd y safle blaenorol yn cael ei danddefnyddio ac mewn cyflwr gwael, ac roedd yn barod ar gyfer defnydd newydd. Mae Cyngor Tref Pencoed wedi dangos brwdfrydedd mawr dros greu mwy o gyfleusterau ym Mhencoed a gaiff eu croesawu gan bobl ifanc yr ardal. Hoffwn ganmol y ffordd maen nhw’n cyflawni hyn drwy’r broses Trosglwyddo Ased Cymunedol.”
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Mae Cyngor Tref Pencoed wedi cadarnhau y bydd y Parc sglefrfyrddio a BMX newydd yn cael ei arolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn daclus.
Mae rhwystr acwstig sy’n 2.5m o uchder wedi cael ei ychwanegu o amgylch y parc sglefrfyrddio i gadw unrhyw sŵn i lawr, ac mae’r cyngor tref hefyd yn ystyried a fyddai gosod cyfleusterau tennis ychwanegol yn eu lle ar safle arall yn y dyfodol o fudd i Bencoed.