Parc chwarae newydd gwerth £23,000 yn agor yn Waun Cimla
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 07 Gorffennaf 2021
Mae parc chwarae newydd gwerth £23,000 wedi agor yn Waun Cimla, Mynydd Cynffig, sy'n darparu lle diogel i blant chwarae.
Mae’r parc yn un o dri ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael eu hariannu gan brosiect Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a alluogodd offer chwarae newydd i gael eu gosod. Darparwyd cyllid hefyd ar gyfer Ardal Chwarae Llangrallo ac Ardal Chwarae Cilgant Pandy.
Mae'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn rhan o agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru sy'n cydnabod y gall plant fod yn dlawd o ran profiad, cyfle a dyhead, ac y gall y math hwn o dlodi effeithio ar blant o bob cefndir cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ledled Cymru.
Parc newydd Waun Cimla yw’r cyntaf i agor yn yr ardal ac mae’n darparu sawl gweithgaredd hwyliog i blant eu mwynhau gan gynnwys sî-sô, ffrâm ddringo rhaff a siglen teiars.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Radmore, Cadeirydd Cyngor Cymunedol y Pîl: “Rwy’n falch iawn bod y cyngor cymunedol wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu’r parc chwarae newydd yn Waun Cimla, Mynydd Cynffig.
"Does dim darpariaeth o ran chwarae wedi bod yn ardal Mynydd Cynffig ers rhai blynyddoedd, ac mae'r parciau newydd wedi'u croesawu'n fawr gan drigolion lleol."
Drwy weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a chynghorau cymunedol, rydym wedi gallu sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o £112,000 ar gyfer y tair ardal chwarae gan helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ifanc yn y gymuned.
Mae'n gyffrous gweld y newid yn y tri pharc chwarae wedi'i gwblhau, ac i weld y plant a'r teuluoedd yn eu mwynhau'n barod.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau