Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Paratoadau ar y gweill ar gyfer Gŵyl Elvis Porthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau pa ffyrdd lleol fydd ar gau dros dro i draffig er mwyn helpu i gadw ffans cerddoriaeth yn ddiogel yn ystod Gŵyl Elvis Porthcawl eleni.

Bydd y ffordd ar hyd y promenâd rhwng Marina Porthcawl a Gwesty Seabank ar gau trwy’r dydd ar ddydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Medi.

Er y gall yr amseroedd amrywio ychydig er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth, bwriedir cau'r ffordd rhwng 6am ddydd Sadwrn, a hanner nos ddydd Sul.

Bydd dargyfeiriadau dros dro ar waith, a gofynnir i yrwyr roi sylw manwl i arwyddion wrth yrru o gwmpas y dref a'r ardal gyfagos dros benwythnos yr ŵyl.

Bydd systemau unffordd hefyd ar waith yn Rhodfa Fictoria, Doddridge Way, Rhodfa Parc a Stryd Doc er mwyn lleihau tagfeydd ar y llwybrau dargyfeirio.

Yn y cyfamser, er y bydd y rhan fwyaf o Bromenâd y Dwyrain ar gau i bob cerbyd heblaw tacsis, coetsis a bysiau mini sy'n cludo ffans Elvis i’r digwyddiad, bydd maes parcio Llyn Halen yn dal i fod ar agor ac yn hygyrch. Bydd arwyddion ychwanegol yn cael eu darparu i dywys gyrwyr i’r meysydd parcio a’r ardaloedd gollwng penodedig.

Bydd digwyddiad Parkrun ar thema Elvis yn cael ei gynnal fore dydd Sadwrn, ac mae casgliadau bwced elusen trwyddedig wedi'u trefnu ar gyfer canol y dref, ardaloedd Promenâd y Dwyrain, yn ogystal â'r mynediad at Draeth Coney a Bae Tywodlyd.

Bydd cynwysyddion gwastraff ychwanegol yn cael eu gosod ar draws y glan y môr ac yn yr ardaloedd cyhoeddus prysuraf, tra bydd tîm strydoedd glanach y cyngor hefyd yn gweithio drwy gydol y penwythnos i wagio biniau gwastraff cyhoeddus.

Bydd Ambiwlans Sant Ioan yn gweithredu canolfan frysbennu ym Mharc Griffin, a bydd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru uned ymateb beiciau yn yr ardal trwy gydol y digwyddiad.

Adnabyddir yr Ŵyl Elvis fel yr ymgynulliad mwyaf o ffans Elvis yn Ewrop, mae’n denu miloedd o bobl y flwyddyn i dref glan y môr Porthcawl.

Mae llawer o waith paratoi ynghlwm â threfnu'r ŵyl, gan fod sawl lleoliad yn rhan o’r gwaith o osod digwyddiadau ar thema Elvis.

Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn chwarae rôl allweddol yn yr achlysur. Bydd gan swyddogion yr heddlu bresenoldeb llawn yn y dref, ynghyd â swyddogion gorfodi'r cyngor a fydd hefyd yn monitro'r digwyddiad, er mwyn sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad yn glynu at y rheoliadau gofynnol.

Arweinydd y Cyngor Huw David

Dywedodd Gareth Newman, Arolygydd Plismona Lleol: "Mae’r Ŵyl Elvis yn denu llu o bobl i Borthcawl, ac rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r digwyddiad yn ddiogel.

"Bydd yr ŵyl yn edrych yn debycach i'r arfer eleni, gan nad oes angen i ni wisgo gorchuddion wyneb na chadw pellter cymdeithasol.

"Mae'n benwythnos gwych ar gyfer y dref - hoffwn atgoffa pawb i yfed yn gyfrifol, i ofalu am ei gilydd, ac wrth gwrs, i barchu trigolion y dref ei hun.

"Bydd swyddogion yn y digwyddiad, a byddwn yn gweithio'n agos â'r trefnwyr, yn ogystal â'r awdurdod lleol, er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth."

Chwilio A i Y