Pam mae brechlynnau atgyfnerthu yn hanfodol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 11 Hydref 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi cyfres o atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch y rhaglen frechu atgyfnerthu coronafeirws.
Mae’r Cwestiynau Cyffredin, sydd ar gael ar wefan Cwm Taf, wedi’u dylunio i egluro dryswch ynglŷn â pham mae angen y brechlynnau atgyfnerthu, sut y gellir eu cyrchu a mwy.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae holl breswylwyr cartrefi gofal wedi cael pigiad atgyfnerthu Covid-19, ac ar hyn o bryd mae’r rhaglen atgyfnerthu yn targedu staff iechyd a gofal ar y rheng flaen a phobl agored i newid sy’n 80 oed a hŷn.
Yn nes ymlaen, bydd yn canolbwyntio ar bobl sydd â chofnod o gyflwr iechyd penodol neu system imiwnedd wan, a phobl 50 mlwydd oed a throsodd.
Mae'r brechlynnau atgyfnerthu'n cael eu rhoi yn y drefn a ddilynwyd ar gyfer camau dos cyntaf ac ail ddos y rhaglen frechu, a bydd llythyrau apwyntiad yn cael eu hanfon at bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth un i naw sydd eisoes wedi cael dau ddos o'r brechlyn.
Mae'r cwestiynau cyffredin ar wefan y bwrdd iechyd wedi’u dylunio i roi eglurder a thawelwch meddwl. Maent yn ymdrin ag ystod eang o wahanol agweddau a materion, ac rwy’n annog yn gryf i unrhyw un sy’n bryderus am y rhaglen brechlynnau atgyfnerthu i edrych yn fanylach arnynt.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Gallwch edrych ar yr ymatebion i'r cwestiynau cyffredin trwy ymweld â gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.