Pafiliynau Cae Bontnewydd ar fin cael eu hadnewyddu a'u hatgyweirio
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Ionawr 2021
Gyda disgwyl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo chwaraeon cystadleuol i ddychwelyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar adnewyddu ac atgyweirio dau bafiliwn chwaraeon lleol poblogaidd.
Yn dilyn canlyniadau arolygon annibynnol ac ar ôl oedi a achoswyd gan bandemig y coronafeirws a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r atgyweiriadau arfaethedig gael eu haildrefnu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi comisiynu gwaith adeiladu hanfodol yn y pafiliynau, y mae'r ddau ohonynt wedi'u lleoli yng Nghaeau Bontnewydd.
Bydd y Pafiliwn Newydd yn elwa o gladin wal newydd, addurniadau allanol llawn a gwell cyfleusterau ystafell gawod, gan gynnwys lloriau teils newydd, tra bydd Pafiliwn y Bandstand yn derbyn to newydd gwell a fydd yn cael ei osod yn ofalus fel nad yw'n tarfu ar nythfa o ystlumod sydd wedi dechrau preswylio yn rhannau uchaf yr adeilad.
Mae Pafiliwn y Bandstand a Phafiliwn Newydd mewn cyflwr gwael, ond mae'r gwaith hwn yn mynd i'w cefnogi tra bod gwaith yn parhau ar gynllun hirdymor ar gyfer Caeau Bontnewydd sydd â'r potensial i ddarparu cyfleusterau chwaraeon newydd i gyd.
Er i'r cyngor drefnu i'r gwaith gael ei wneud yn wreiddiol ym mis Mai y llynedd, bu'n rhaid i ni ailystyried ein cynlluniau wrth i'r pandemig ddechrau o ddifrif, a bu'n rhaid ailflaenoriaethu gwaith ar draws ystod eang o wahanol safleoedd a chyfleusterau'r cyngor ar frys.
Ar ryw adeg eleni, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i chwaraeon cystadleuol ailddechrau, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith i wneud yr atgyweiriadau hyn y mae mawr eu hangen nawr tra na ellir defnyddio’r pafiliynau, ac i sicrhau eu bod yn cael eu hadnewyddu ac yn barod i groesawu chwaraewyr yn ôl.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau