Pafiliwn Pencoed am gael ei adnewyddu a’i ailagor
Poster information
Posted on: Dydd Llun 10 Mehefin 2019
Mae’r Pafiliwn ar Faes Hamdden Pencoed ar fin cael ei adnewyddu a’i ailagor a bydd Cyngor Tref Pencoed yn gyfrifol amdano.
Mae Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno bod y pafiliwn ar Ffordd Felindre, sydd wedi bod ar gau ers sawl mis, yn cael ei drosglwyddo i gyngor y dref, ond bydd atgyweiriadau mawr yn cael eu gwneud yno gyntaf.
Pan ddifrodwyd y pafiliwn yn ddrwg gan storm ym mis Mawrth 2018, caewyd yr ystafelloedd newid i ddefnyddwyr chwaraeon. Daeth yr adeilad cyfan yn anweithredol wedyn pan ddarganfuwyd asbestos yn nho’r adeilad.
Ers hynny, mae’r asbestos wedi cael ei dynnu oddi yno ac mae’r adeilad wedi cael ei ddiheintio yn llwyr, ond mae’r pafiliwn yn parhau i fod ar gau oherwydd atgyweiriadau costus eraill sydd eu hangen.
Yn awr, diolch i gytundeb rhwng y ddau awdurdod, bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio unwaith eto oherwydd bod y cyngor tref yn ei gymryd fel Trosglwyddiad Asedau Cymunedol.
Bu trosglwyddiadau tebyg lle mae cynghorau tref yn ysgwyddo’r baich o reoli sawl cyfleuster cyhoeddus. Yn ogystal, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo trosglwyddo caeau chwarae Ffordd Hermon/Stryd Metcalf i Glwb Pêl-droed Caerau, tra bod Clwb Rygbi Bryncethin yn trawsnewid eu pafiliwn hen ffasiwn yn ganolfan gymunedol, ar ôl iddyn nhw gytuno ar brydles 35 mlynedd i reoli’r pafiliwn a’r caeau chwarae ym mis Hydref 2018.
Bydd cyllid a neilltuwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn hwyluso mwy o Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael ei ddefnyddio i wneud yr atgyweiriadau ar bafiliwn Pencoed ynghyd â chyllid arall y mae Cyngor Tref Pencoed eisoes wedi’i dderbyn.
Unwaith y bydd yr atgyweiriadau wedi cael eu cwblhau, bydd y cyngor tref yn rheoli’r pafiliwn ar brydles gychwynnol o 6 blynedd, gyda’r bwriad y bydden nhw’n derbyn prydles am dymor hirach yn y dyfodol.
Mae gwirionedd didostur y sefyllfa ariannol bresennol yn golygu ein bod ni angen rheoli rhai cyfleusterau yn wahanol, ac felly rydym yn falch iawn o gefnogi diddordeb Cyngor Tref Pencoed i fod yn gyfrifol am y pafiliwn drwy Drosglwyddiad Asedau Cymunedol.
Mae’r pafiliwn bob amser wedi cael llawer o ddefnydd gan nifer o glybiau chwaraeon yn ogystal â grwpiau cymunedol. Mae’n wirioneddol bwysig i gadw adeiladau fel yr un yma yn agored oherwydd eu bod yn darparu cymaint o fuddion ar gyfer preswylwyr lleol, a chredaf fod y trefniant hwn yn un cadarnhaol ar gyfer yr holl bartïon.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgwylir i’r pafiliwn ailagor ym mis Medi 2019.