Osgowch godi ofn ar eich llygaid y Calan Gaeaf hwn
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 31 Hydref 2018
Yn dilyn adroddiadau am anafiadau difrifol i’r llygaid drwy ddefnyddio lensys cyffwrdd dim pŵer, caiff y cyhoedd eu rhybuddio am wisgo lensys cyffwrdd dim pŵer adeg Calan Gaeaf.
Yn 2016 cymerodd swyddogion Safonau Masnach gamau ffurfiol yn erbyn dau fusnes yng Nghaerdydd a oedd yn gwerthu lensys cyffwrdd dim pŵer. Daeth hyn o ganlyniad i gŵyn gan aelod o'r cyhoedd a brynodd y cynnyrch ar gyfer parti Calan Gaeaf a chael haint llygad difrifol yr oedd angen ei drin yn yr ysbyty. Yn 2017 cynhaliodd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir arolwg pellach, a ddangosodd fod y cynhyrchion hyn yn parhau i gael eu gwerthu ac yn achosi anafiadau llygad difrifol.
Yn ôl y gyfraith, ni ddylai lensys cyffwrdd gael eu gwerthu ond dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig, optometrydd cofrestredig neu optegydd dosbarthu cofrestredig sydd ar y safle i oruchwylio'r gwerthiant.
Eleni, cynhaliodd swyddogion Safonau Masnach ledled Cymru arolwg cydgysylltiedig a drefnwyd gan Benaethiaid Safonau Masnach Cymru. Cymerodd 18 Awdurdod lleol ledled Cymru ran yn yr arolwg a darganfuwyd bod 77 siop yn gwerthu lensys llygad dim pŵer. Rhybuddiwyd y siopau hyn ymlaen llaw i beidio â gwerthu'r cynnyrch oni bai fod ymarferydd meddygol cofrestredig, optometrydd cofrestredig neu optegydd dosbarthu cofrestredig ar y safle i oruchwylio'r gwerthiant. Darparwyd arweiniad hefyd ar ffurf taflen gan y Cyngor Optegol Cyffredinol.
Cynhaliwyd 71 o bryniadau prawf yn y siopau hynny. Gwerthodd pedair ohonynt gynhyrchion heb yr oruchwyliaeth a oedd ei hangen. Yn yr achosion hynny, rhoddodd Swyddogion Safonau Masnach hysbysiadau diogelwch o dan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 yn gwahardd gwerthu’r cynnyrch heb oruchwyliaeth.
Dywedodd llefarydd o Benaethiaid Safonau Masnach Cymru: “Er mwyn osgoi'r posibilrwydd o anaf difrifol, cynghorir defnyddwyr i brynu lensys cyffwrdd dim pŵer Calan Gaeaf gan ymarferydd meddygol cofrestredig, optometrydd cofrestredig neu optegydd dosbarthu cofrestredig yn unig (y mae’n rhaid iddo fod ar y safle i oruchwylio'r gwerthiant).
“Caiff canlyniad yr arolwg hwn ei rannu â chydweithwyr ledled y DU. Mae'n galonogol fod cymaint o siopau wedi cadw at y cyngor a ddarparwyd a chadw aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru yn ddiogel o niwed posibl. Bydd safleoedd yng Nghymru yn parhau i gael eu monitro a gall unrhyw ddiffyg cydymffurfio arwain at gamau gorfodi’n cael eu cymryd”