Oriau gweithredu'r gaeaf mewn canolfannau ailgylchu cymunedol o 1 Hydref
Poster information
Posted on: Dydd Llun 28 Medi 2020
O ddydd Iau 1 Hydref, bydd y tair Canolfan Ailgylchu Gymunedol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn newid i oriau gweithredu'r gaeaf sy'n golygu y byddant ar agor rhwng 9am a 4pm, saith diwrnod yr wythnos.
Cofiwch y gallwch ailgylchu llawer o eitemau yn y Canolfannau Ailgylchu Cymunedol yn Llandudwg, Maesteg a Brynmenyn.
Mae'r deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y canolfannau'n cynnwys beiciau, llyfrau, metel sgrap, cardbord, eitemau trydanol, oergelloedd a rhewgelloedd, tecstilau a phren.
Gellir mynd â gwastraff na ellir ei ailgylchu i'r canolfannau, ond gofynnir ichi wahanu unrhyw beth sy'n ailgylchadwy, felly mae'n syniad da ichi drefnu'ch gwastraff gartref cyn ichi ymweld.
Mae'r siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Maesteg ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener bob wythnos. Mae rheoliadau COVID-19 yn gymwys, sef mynediad i un unigolyn ar y tro a rhaid gwisgo gorchuddion wyneb.
Mae'r siop, o'r enw The Siding, yn cynnwys popeth o feiciau a sgwteri i lyfrau a DVDs, seinyddion, gemau a llestri. Mae'n cael ei rhedeg gan fenter gymdeithasol Wastesavers mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier.