Noson tân gwyllt a sioeau tân gwyllt ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 30 Hydref 2019
Bydd nifer o sioeau tân gwyllt i'r cyhoedd yn cael eu trefnu gan gynghorau tref a chymuned, busnesau lleol a grwpiau eraill ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mis Tachwedd hwn. Dyma fanylion rhai ohonynt:
Dydd Gwener 1 Tachwedd
- Tondu: Sioe tân gwyllt a pharti Calan Gaeaf yng Nghlwb Criced Tondu. Bydd y parti Calan Gaeaf yn dechrau am 6pm; cynhelir y sioe tân gwyllt am 7pm. Mynediad yn £3 i oedolion, £2 i blant. Bydd lluniaeth ar gael. Dim parcio ar gael.
Dydd Sadwrn 2 Tachwedd
- Heol-Y-Cyw: Sioe tân gwyllt yng Nghlwb Rygbi Heol-Y-Cyw gan ddechrau am 6.30pm. Mynediad am ddim. Trefnir gan Gyngor Cymuned Uwch Llangrallo a Chlwb Rygbi Hel-Y-Cyw.
- Trelales: Sioe tân gwyllt ar Gaeau Canolfan Gymunedol Bryntirion. Dechrau am 7pm. Mynediad am ddim. Bydd stondinau difyrion a lluniaeth ar gael o 5.30pm. Trefnir gan Gyngor Cymuned Trelales.
- Porthcawl: Sioe tân gwyllt ar lan y môr yn y Hi Tide Inn. Dechrau o 7.30pm ymlaen. Mynediad am ddim. Trefnir gan yr Hi Tide Inn. Gohirir tan Ddydd Mawrth 5ed Tachwedd
Dydd Mawrth 5 Tachwedd
- Brackla: Sioe tân gwyllt yn Ysgol Gyfun Archesgob McGrath. Gatiau’n agor am 6pm a’r sioe’n dechrau am 7pm. Mynediad yn £1 i oedolion, am ddim i blant. Bydd lluniaeth ar gael. Trefnir gan Gyngor Cymuned Brackla.
- Pencoed: Sioe tân gwyllt ar gaeau chwarae Heol Felindre. Dechrau am 6.15pm. Mynediad am ddim. Trefnir gan Gyngor Tref Pencoed.
- Maesteg: Sioe tân gwyllt elusennol yng Nghlwb Rygbi Maesteg. Gatiau’n agor am 6:30pm a’r sioe’n dechrau am 7.30pm. Mynediad £6 y pen neu £20 i deulu o bedwar. Trefnir gan Glwb Rygbi
- Y Pîl: Sioe tân gwyllt yng Nghlwb Rygbi y Pîl yn dechrau oddeutu 7pm. Mynediad yn £2.50 i unigolion dros dair oed. Bydd lluniaeth ar gael. Trefnir gan Glwb Rygbi y Pîl.
Cadwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt - dilynwch god diogelwch y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau:
- Cynlluniwch eich sioe tân gwyllt i’w gwneud yn ddiogel ac yn bleserus.
- Cadwch dân gwyllt mewn blwch wedi’i gau a’u defnyddio un ar y tro.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt a’u dilyn, gan ddefnyddio tortsh os bydd angen.
- Taniwch y tân gwyllt ar hyd braich gan ddefnyddio tapr a sefwch yn ddigon pell yn ôl.
- Cadwch fflamau noeth, gan gynnwys sigaréts, i ffwrdd oddi wrth dân gwyllt.
- Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt unwaith y bydd wedi cael ei danio.
- Peidiwch â rhoi tân gwyllt mewn pocedi a pheidiwch byth â’u taflu.
- Cyfeiriwch unrhyw rocedi tân gwyllt yn ddigon pell i ffwrdd oddi wrth y rhai sy’n gwylio.
- Peidiwch byth â defnyddio paraffin na phetrol ar goelcerth.
- Sicrhewch bod y tân wedi diffodd a bod yr ardal o gwmpas yn ddiogel cyn gadael.