Nodyn am boteli nwy wrth i Ganolfannau Ailgylchu ddychwelyd at oriau'r gaeaf
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Hydref 2018
Wrth i Ganolfannau Ailgylchu Cymunedol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddychwelyd at oriau agor y gaeaf yr wythnos hon, mae trigolion lleol yn cael eu hatgoffa mai'r canolfannau yw'r llefydd gorau a mwyaf diogel i ailgylchu unrhyw boteli nwy gwag sydd dros ben ers tymor gwersylla'r haf.
Yn ystod yr haf, cafwyd sawl tân bach yn storfa Kier yn Nhondu o ganlyniad i boteli nwy yn cymysgu â deunyddiau eraill sy'n cael eu cywasgu yn bentyrrau ar gyfer ailgylchu.
Oherwydd bod poteli nwy coginio gwag yn cynnwys olion o bropan neu fiwtan, mae'n creu cyfuniad peryglus iawn os ydynt yn cael eu cymysgu â deunyddiau ailgylchu sy'n cael eu cywasgu yn y storfa, neu os ydynt yn cael eu rhoi mewn bagiau gwastraff sy'n cael eu cywasgu yn y lorri sbwriel. Y ffordd fwyaf diogel o waredu poteli nwy yw mynd â nhw i’r Canolfannau Ailgylchu Cymunedol ym Maesteg, Llandudwg a Brynmenyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
O 1 Hydref hyd at 31 Mawrth, mae'r safleoedd ar agor bob dydd rhwng 8:30am a 4:30pm, ar wahân i ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/ailgylchu-gwastraff-ar-amgylchedd/.