Nifer y galarwyr yn Amlosgfa Llangrallo a mynwentydd a gynhelir gan y cyngor i gynyddu o 10 i 20
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Mehefin 2020
Bydd nifer y galarwyr y caniateir iddynt fynd i angladdau yn Amlosgfa Llangrallo a mynwentydd a gynhelir gan y cyngor yn y fwrdeistref sirol yn cynyddu o 10 i 20 o ddydd Llun, 29 Mehefin.
Gosododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y cyfyngiadau ar nifer y galarwyr yn unol â chanllawiau ledled y DU ar ddiwedd mis Mawrth er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws rhwng galarwyr, clerigwyr, trefnwyr angladdau a staff amlosgfeydd.
Nid yw rheoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch cynulliadau mawr yn newid a chynghorir y cyhoedd o hyd i gadw at y canllawiau teithio hanfodol a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Dywedodd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: “Rydym yn cydnabod pa mor anodd y mae'r cyfyngiadau hyn wedi bod i rai teuluoedd a ffrindiau ar adeg sydd eisoes yn ofidus iawn.
“Rydym wedi bod yn adolygu'r cyfyngiadau yn barhaus ac mae'r nifer cynyddol yn cefnogi'r drefn i ddiogelu'r cyhoedd o hyd, yr ymdrech barhaus i arafu lledaeniad y feirws a sicrhau bod gwasanaethau profedigaeth yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth angladd urddasol ar gyfer teuluoedd.”
Bydd cyfanswm o hyd at 20 o alarwyr hefyd yn gallu mynychu gwasanaeth angladdol ar lan y bedd cyn belled â'u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol yn llym trwy gydol y seremoni yn yr awyr agored.
Dywedodd y Cynghorydd Young: “Byddwn yn annog pawb sy’n mynychu angladdau i beidio â thorri unrhyw un o’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Peidiwch â mynychu gwasanaethau yn yr amlosgfa neu'r mynwentydd os nad ydych yn un o'r 20 galarwr a wahoddwyd. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw at y rheolau er mwyn sicrhau nad oes rhaid i ni ddychwelyd at gyfyngiadau tynnach.”