Nid yw'r cymorthdaliadau uchel presennol ar gyfer meysydd a phafiliynau chwaraeon yn gynaliadwy
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Hydref 2018
Gyda chyllidebau awdurdodau lleol yn wynebu gwasgfa ddigyffelyb o ganlyniad i gyni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau siarad â mwy o glybiau rygbi, pêl-droed a chriced ynghylch y posibilrwydd o'u cael nhw i gymryd yr awenau a rhedeg y meysydd a'r pafiliynau awyr agored y maen nhw'n eu defnyddio.
Ar gyfartaledd, mae'r incwm y mae'r cyngor yn ei dderbyn am godi tâl ar ddefnyddwyr dim ond yn cyfri am rhwng 20 a 25 y cant o'r costau gwirioneddol o ddarparu a chynnal a chadw'r cyfleusterau, felly mae'r cyngor, mewn gwirionedd, yn darparu cymhorthdal ariannol o hyd at 80 y cant.
Yn ystod 2018/19, mae'r cyngor yn disgwyl cael £93,000 mewn taliadau am feysydd a phafiliynau, ond bydd yn gwario dros £452,000 ar y cyfleusterau.
Mae'r cyngor wedi cadarnhau na fydd yn gallu parhau i dalu cymaint o gymhorthdal am feysydd a phafiliynau chwaraeon ag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, yn ogystal â gallu fforddio'r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod cyfleusterau'n parhau i fodloni'r safonau angenrheidiol.
Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno y bydd y cyngor yn ymgynghori â chlybiau chwaraeon a sefydliadau lleol sy'n defnyddio'r cyfleusterau ar hyn o bryd, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned a chyrff llywodraethu chwaraeon perthnasol, i gael eu barn ar gynigion yr awdurdod lleol i godi taliadau llogi'n sylweddol, a hefyd i archwilio unrhyw ffyrdd eraill o redeg meysydd a phafiliynau chwaraeon lleol yn y dyfodol, megis trwy drosglwyddo asedau cymunedol.
Rydym am fod mor agored â phosibl am ddifrifoldeb y sefyllfa ariannol yr ydym yn ei hwynebu, a dechrau siarad â chlybiau a sefydliadau chwaraeon er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.
Nid yw'r ffioedd hurio ar gyfer meysydd a phafiliynau'n agos at ddigon i dalu am y costau sy'n gysylltiedig â nhw, ac nid yw'r lefel bresennol o gymhorthdal yn gynaliadwy. Os na chaiff camau eu cymryd, mae'n anochel y byddwn mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid cau cyfleusterau.
Nid ydym eisiau i hynny ddigwydd, ond mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o ddarparu'r cyfleusterau heb gymaint o ddibyniaeth ariannol ar y cyngor o fewn y blynyddoedd nesaf.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gorfod arbed mwy na £30 miliwn eisoes o ganlyniad i gyni, trwy fesurau fel symleiddio ei strwythur uwch-reoli, lleihau staff y cyngor o fwy na 400, trosglwyddo gwasanaethau penodol i bartneriaid fel Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a gwneud gostyngiadau mewn meysydd fel cyfleusterau cyhoeddus a glanhau strydoedd.
Ond gyda phrinder pellach o £35 miliwn yn cael ei ddarogan ar gyfer y blynyddoedd nesaf, mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yr awdurdod lleol yn cynnig y dylid arbed £150,000 o'i gyllideb parciau yn ystod 2019/20 a £350,000 pellach yn ystod 2020/21.
Un o'r datrysiadau sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer meysydd a phafiliynau chwaraeon yw i glybiau ddod yn gyfrifol amdanynt yn uniongyrchol trwy drosglwyddo asedau cymunedol.
Mae nifer o glybiau wedi mynegi diddordeb yn y posibilrwydd o drosglwyddo asedau, ac mae nifer bychan wedi cyrraedd cam uwch, gan gynnwys Clwb Rygbi a Phêl-droed Bryncethin a Chlwb Pêl-droed Caerau.
Er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o drosglwyddo asedau cymunedol, mae'r cyngor wedi neilltuo £1 miliwn i'w ddefnyddio'n benodol ar gyfer buddsoddi mewn adeiladau sydd angen eu gwella cyn unrhyw drosglwyddo arfaethedig, yn unol ag achos busnes llwyddiannus.
Aeth y Cynghorydd Young ymlaen i ddweud: "Rydym eisiau codi'r mater hwn yn gynnar er mwyn rhoi digon o amser i glybiau ddechrau gweithio ar drosglwyddo asedau cymunedol os hoffent gymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros redeg a chynnal a chadw cyfleusterau.
"Mae llawer o enghreifftiau rhagorol ar hyd a lled Prydain lle y mae trosglwyddo asedau cymunedol wedi bod yn fuddiol i bawb sy'n gysylltiedig ag ef, ond mae hefyd yn bosibl y gallai cynigion eraill gael eu hawgrymu a fyddai'n creu'r un lefel o arbedion gofynnol.
"Rydym yn llwyr sylweddoli'r rôl bwysig y mae chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn eu chwarae yn ein cymunedau, ac rydym yn ymwybodol fod y mwyafrif helaeth o glybiau chwaraeon yn cael eu rhedeg gan nifer bychan o wirfoddolwyr sydd eisoes yn wynebu heriau a phwysau ariannol eraill wrth geisio cynnal a rhedeg eu timau.
"Mae hon yn sefyllfa gymhleth nad yw'n hawdd ei datrys, ond rydym eisiau dechrau'r drafodaeth ac yn edrych ymlaen at glywed barn pobl."
Ar ôl yr ymarfer ymgynghori, bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i Aelodau'r Cabinet ac i'r cynghorwyr sydd ar y pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol.