Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ni fydd yr un clwb chwaraeon yn talu ffioedd llogi uwch ar gyfer caeau chwarae na phafiliynau parc

  • Bydd cynghorau tref, cynghorau cymuned a chlybiau chwaraeon yn cychwyn ar y broses trosglwyddo asedau cymunedol ar gyfer y 39 cae chwarae a'r 40 pafiliwn parc.
  • Bydd y cabinet yn cyfarfod ar 25 Chwefror er mwyn trafod pecynnau cyllid newydd.

Bydd aelodau'r cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trafod cyfres o fesurau newydd ar 25 Chwefror sydd â'r bwriad o gryfhau ei becyn trosglwyddo asedau cymunedol a helpu clybiau chwaraeon, cynghorau tref a chymuned a sefydliadau eraill i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros gyfleusterau chwaraeon allanol yn y fwrdeistref sirol.

Erbyn diwedd mis Ionawr 2020, roedd 48 o glybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned wedi mynegi diddordeb mewn rheoli cyfleusterau eu hunain, gan gynnwys yr holl gaeau chwarae a phafiliynau parc ledled y fwrdeistref sirol. Mae gan y fwrdeistref sirol tua 60 o glybiau a 530 o dimau.

Gan y derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb ar bob cyfleuster perthnasol yn yr ardal erbyn hyn, mae'r cynigion yn golygu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar gaeau chwaraeon, wicedi criced a lawntiau bowlio – a rhagor o amser i sefydliadau allu cwblhau'r broses drosglwyddo.

Rwyf wrth fy modd yn gweld bod datganiadau o ddiddordeb yn eu lle ar gyfer pob un o'n cyfleusterau chwaraeon lleol. Bu hyn wastad yn ymwneud â darganfod ffyrdd newydd o ddarparu cyfleusterau fel hyn yn wyneb toriadau anferth i gyllid y cyngor a sicrhau y gallan nhw barhau i fod yn agored at ddefnydd y cyhoedd.

Ni fydd y cyngor yn cyflwyno ffioedd adfer i'r gost lawn ar gyfer unrhyw gyfleuster lle mae ymrwymiad gan y sefydliad i'w hunan-reoli naill ai trwy brydles lawn neu drwydded. Galluogi a rhoi cymorth i glybiau gymryd mwy o gyfrifoldeb yw'r peth iawn i'w wneud o hyd, ac mae'r cyngor wedi ymrwymo'n llawn yn hyn o beth gan ei fod yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a mwy o fewnbwn lleol.

Roedd y cyngor yn rhoi cymhorthdal i rai cyfleusterau o fwy na 80 y cant o'r gost wirioneddol, felly mae hyn lawer gwell na chynyddu ffioedd neu orfod cau pafiliynau chwaraeon yn hollol oherwydd dydyn ni ddim wedi gallu buddsoddi ynddyn nhw yn sgil y cyni cyllidol sy'n parhau.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Ers peth amser, mae'r awdurdod wedi rhybuddio na fydd yn gallu fforddio rhedeg cyfleusterau chwaraeon allanol, ac mae wedi bod yn hyrwyddo trosglwyddiadau asedau cymunedol fel ffordd o sicrhau y bydd cyfleusterau'n parhau i fod yn agored yn y gymuned.

Ddydd Mawrth 25 Chwefror, bydd aelodau'r cabinet yn ystyried cefnogi amrediad o fesurau er mwyn cryfhau'r pecyn trosglwyddo asedau cymunedol. Maent yn cynnwys:

  • Rhoi rhagor o amser i glybiau chwaraeon a'r cyngor gwblhau trosglwyddiadau yn sgil y lefelau uchel o ymgysylltiad gan glybiau, cynghorau tref a chynghorau cymuned.
  • Neilltuo £50,000 i gomisiynu ymgynghorwyr i gwblhau arolygon annibynnol ar gyflwr caeau chwaraeon, lawntiau a wicedi fel y gellir penderfynu ar ofynion gwaith cynnal a chadw i'r dyfodol.
  • Datblygu rhaglen o grantiau cyfalaf o £5,000 hyd at £25,000 ar gyfer gwella a draenio meysydd chwaraeon mewn ymgynghoriad â chyrff llywodraethu chwaraeon er mwyn sicrhau bod safleoedd a flaenoriaethir yn addas i'r diben.
  • Sefydlu grantiau o £5,000 hyd at £10,000 ar gyfer cyfarpar cynnal a chadw meysydd chwaraeon er mwyn helpu â'r gost o brynu cyfarpar ar gyfer hunan-reoli mannau gwyrdd.
  • Darparu grant untro o £5,000 i glybiau bowlio ar gyfer pob safle ar yr amod fod clybiau'n llofnodi prydles trosglwyddo asedau cymunedol a chymryd drosodd o ran gwaith cynnal a chadw'r lawnt bowlio bob dydd o 30 Medi 2020 ymlaen. Yn hanesyddol, nid yw clybiau bowlio wedi talu ffioedd llogi o gwbl.
  • Sefydlu panel cynghori ar y cyd gyda swyddogion cyngor a chynrychiolwyr o gyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol fel Criced Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru er mwyn helpu sicrhau'r canlyniad gorau i'r gymuned. Bwriedir cynnal cyfarfod cyntaf y panel cynghori ym mis Mawrth.

Y Gronfa Gymorth i Dimau Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr

Mae cronfa arian o £75,000 wrthi'n cael ei sefydlu i roi cymorth i glybiau chwaraeon gwirfoddol sydd wedi'u lleoli yn y fwrdeistref sirol.

Er y bydd y broses ymgeisio'n agored i unrhyw grŵp oedran, bydd y cynllun yn blaenoriaethu cymorth ar gyfer timau chwaraeon plant bach, plant iau ac ieuenctid yn ogystal â grwpiau chwaraeon sydd wedi'u tangynrychioli.

Mae'n bosib y gallai grantiau, sydd wedi'u cyfyngu i uchafswm o £2,000 y tîm, ddenu arian cyfatebol gan Gist Gymunedol Chwaraeon Cymru neu gyrff llywodraethu'r chwaraeon perthnasol.

Gallai grantiau gwmpasu'r gost o brynu cyfarpar, hyfforddiant a chostau gweithredu dyddiol – a bydd y gronfa'n agored i gynigion ddwywaith y flwyddyn. 

Cynnydd a wnaed

Ar hyn o bryd, mae prydlesau'n cael eu cwblhau ar gyfer 11 cae chwarae yn y fwrdeistref sirol ac mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer 21 cae chwarae pellach; mae trafodaethau'n parhau ynglŷn ag 16 cyfleuster ychwanegol.

Mae hyn yn cynnwys cyfanswm o saith cyngor tref a chymuned: Coety Uchaf, Corneli, Trelales, Llangynwyd Isaf, y Castellnewydd Uchaf, Pencoed a Phorthcawl.

Yn y cyfamser, cynhaliwyd trafodaethau anffurfiol â phump o gynghorau tref a chymuned pellach - Llangrallo Isaf, Llangynwyd Ganol, Maesteg, Cwm Ogwr ac Ynysawdre - ynglŷn â threfniadau dyfodol pafiliynau a chaeau chwarae yn eu hardaloedd.

Mae wyth trosglwyddiad asedau cymunedol i glybiau chwaraeon i'w cwblhau cyn hir, yn cynnwys Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr, Clwb Pêl-droed Caerau, Clwb Pêl-droed Carn Rovers, Clwb Rygbi Mynyddcynffig, Clwb Rygbi Harlequins Maesteg, Clwb Pêl-droed Parc Maesteg, Clwb Bechgyn a Merched Pencoed Athletic a Chwaraeon Rest Bay, sy'n fenter ar y cyd rhwng Clwb Pêl-droed Porthcawl a Porthcawl United.

Hyd yn hyn, dyrannwyd cyfanswm o £340,000 i chwe phrosiect o'r gronfa £1 miliwn ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol.

Maent yn cynnwys £50,000 ar gyfer Clwb Pêl-droed Caerau er mwyn adnewyddu'r pafiliwn presennol ar gaeau chwarae Heol Hermon / Stryd Metcalfe, £45,000 ar gyfer Charaeon Rest Bay i adnewyddu'r pafiliwn presennol ar gaeau chwarae Rest Bay, a £75,000 ar gyfer Cyngor Tref Pencoed i dalu am waith atgyweirio ar Bafiliwn Maes Chwaraeon Pencoed.

Mae strategaeth wahanol yn cael ei llunio ar gyfer Caeau Newbridge, Parc Lles Maesteg ac Aberfields, sydd i gyd yn cael eu defnyddio'n helaeth fel parciau cyhoeddus gan drigolion lleol ac ymwelwyr yn ogystal â chan glybiau chwaraeon.

Sefydlir grŵp llywio rhanddeiliaid ar gyfer pob un o'r tri safle er mwyn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o reoli a datblygu cyfleusterau yn y dyfodol.

Diogelu dyfodol cyfleusterau chwaraeon allanol

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: "Gweithredu polisi a fyddai'n golygu cynnydd enfawr mewn ffioedd ar gyfer cyfleusterau chwaraeon allanol oedd y peth olaf roeddem eisiau ei wneud fel cyngor, ond roeddem yn teimlo nad oedd dewis gennym os oeddem am ddiogelu'r cyfleusterau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Dewis olaf oeddent yn unig os na fyddai sefydliadau lleol yn fodlon cymryd mwy o gyfrifoldeb drwy'r broses trosglwyddo asedau cymunedol - sefyllfa sydd wedi diflannu erbyn hyn.

"Ers cyflwyno'r polisi, mae'r ymateb gan glybiau chwaraeon wedi bod yn eithriadol ac mae didwylledd amlwg i’w weld, ynghyd ag awydd i weithio mewn partneriaeth gyda'r cyngor.

"Y brif apêl iddyn nhw yw y byddan nhw'n gallu gwella'r cyfleusterau sy'n dirywio o flwyddyn i flwyddyn ar hyn o bryd, ac o'n safbwynt ni mae'n ein galluogi i sicrhau nid yn unig bod chwaraeon yn y gymuned yn parhau ond eu bod yn ffynnu.

"Nid ni yw'r awdurdod lleol cyntaf i fabwysiadu polisi tebyg i hwn, ac mae'n debyg nad ni fydd yr olaf gan fod llawer o glybiau a sefydliadau chwaraeon wedi bod yn rhedeg eu cyfleusterau eu hunain yn llwyddiannus ers llawer blwyddyn.

Ychwanegodd: "Y newyddion da yw bod y datganiad ariannol a dderbyniom gan Lywodraeth Cymru, ac a oedd yn well na'r disgwyl, wedi galluogi'r cyngor i roi rhagor o amser i gynghorau tref a chymuned a chlybiau chwaraeon i gwblhau trosglwyddiadau.

"Mae hefyd wedi'n galluogi ni i fuddsoddi mwy yn ein cyfleusterau chwaraeon trwy ddarparu cymorth ariannol ar gyfer sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gwblhau trosglwyddiadau.

“Rydym eisiau helpu clybiau a chynghorau tref a chymuned i reoli a gwella cyfleusterau chwaraeon a sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

"Yn sgil y diddordeb presennol mewn trosglwyddo asedau cymunedol, y deialog â'r cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol a'r pecynnau cyllido mwy eu maint rydym yn eu cynnig, mae'r cyngor yn hyderus bydd y trosglwyddiadau'n cyflymu'n sylweddol dros y flwyddyn nesaf."

Ychwanegodd: "Y cynllun yw ehangu cwmpas y gronfa trosglwyddo asedau cymunedol bresennol  o £1 miliwn – a fydd yn cael ei hailgyflenwi yn ôl yr angen – nid ar gyfer gwaith adeiladu hanfodol yn unig ond hefyd ar gyfer gwella caeau a phrynu cyfarpar.

"Mae'n amlwg fod nifer o'r caeau, lawntiau a wicedi mewn cyflwr gwael yn sgil toriadau i'r gyllideb a phroblemau'n ymwneud â draenio, felly rydym yn annog clybiau a chynghorau lleol i ddod ymlaen a gwneud y gorau o'r cyllid grant a fydd ar gael."

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn rheoli 39 cae chwarae, sy'n cynnwys 40 pafiliwn, 43 cae pêl-droed, 25 cae rygbi, 14 lawnt bowlio a chwe sgwâr criced. Bydd cyfres o arolygon cyflwr annibynnol yn cael ei chynnal cyn hir ar bob pafiliwn a reolir gan y cyngor er mwyn penderfynu pa ofynion ariannu a fydd eu hangen yn y dyfodol.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David: "O ganlyniad i'r lefel bresennol o ddiddordeb mewn trosglwyddo asedau gan gynghorau tref a chymuned a chlybiau chwaraeon, y cynnydd mewn adnoddau y bwriedir eu defnyddio gan y cyngor i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol, y ddeialog gadarnhaol â'r cyrff llywodraethu perthnasol, a'r pecynnau cymorth mwy eu maint sydd nawr yn eu lle, mae'r cyngor yn hyderus y bydd y broses o gwblhau trosglwyddiadau asedau cymunedol yn cyflymu'n sylweddol dros y flwyddyn nesaf.

“Bydd angen ailasesu'r sefyllfa tu hwnt i fis Ebrill 2021 gan y cyngor ym mis Rhagfyr 2020 er mwyn cymryd i ystyriaeth y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021–22 a lefel gweithgarwch trosglwyddo asedau cymunedol, yn arbennig nifer y trosglwyddiadau sydd wedi'u cwblhau."

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod y rhan eithriadol o bwysig y mae cynghorau tref a chymuned yn ei chwarae wrth helpu i reoli a chynnal a chadw cyfleusterau a gwasanaethau sydd wedi bod dan fygythiad gan gyni cyllidol.                                

"Rydym hefyd yn cydnabod, mewn rhai achosion, oherwydd eu cysylltiadau uniongyrchol â chymunedau lleol a chlybiau chwaraeon, y gall cynghorau tref a chymuned fod mewn sefyllfa well i weithio mewn partneriaeth ar lefel leol i ddatblygu atebion cynaliadwy hirdymor."

Trafodir y cynigion mewn cyfarfod cabinet ar ddydd Mawrth 25 Chwefror.

Chwilio A i Y