Ni fydd cam-drin staff y cyngor yn cael ei oddef
Poster information
Posted on: Dydd Llun 14 Chwefror 2022
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod lleol diweddaraf i gyhoeddi ei fod yn datblygu dull dim goddefgarwch newydd tuag at unrhyw un sy’n cam-drin neu’n bygwth staff yr awdurdod lleol.
Mae’n dilyn newyddion diweddar bod mwy o gynghorau ar draws Cymru a Lloegr wedi cymryd camau tebyg i amddiffyn eu staff dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn anffodus, mae rhai pobl yn credu ei bod yn dderbyniol cam-drin, brawychu neu hyd yn oed fygwth gweithwyr y cyngor, a siarad â nhw a’u trin mewn modd na fyddant byth yn breuddwydio ei wneud wrth ddelio â sefydliadau mawr eraill.
Rydym wedi delio â digwyddiadau difrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn amrywio o gam-drin hiliol ac ymgyrchoedd parhaus o aflonyddu i ddifrod troseddol a bygythiadau o drais, ond mae hyn yn ymwneud â mwy na hynny - mae hyn yn ymwneud â herio'r agwedd ei bod yn iawn sarhau a gweld bai ar bobl sy’n gwneud eu gorau i ddarparu gwasanaethau pwysig a hanfodol i gymunedau.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Ychwanegodd y Prif Weithredwr Mark Shephard: “Mae swyddogion y cyngor yn anwleidyddol ac maen nhw yno i wneud swydd benodol sydd yn aml yn anodd. Os yw rhywun yn anfodlon â gwasanaeth, mae gennym brosesau ar waith sy’n galluogi pobl i adrodd amdano – peidiwch â chosbi aelod o staff drwy ymddwyn yn fygythiol tuag atynt.
“Bydd y dull dim goddefgarwch yr ydym yn ei ddatblygu yn ceisio amddiffyn staff rhag ymddygiad mor ofnadwy ac i gymryd y camau priodol sydd ar gael i ni, gan gynnwys atgyfeiriadau i Heddlu De Cymru lle bynnag y bydd angen gwneud hynny.”