Ni fydd apwyntiadau galw heibio newydd 'yn gadael unrhyw un ar ôl’
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 02 Gorffennaf 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi rhai newidiadau newydd i’w raglen brechu barhaus.
O ddydd Llun 5 Gorffennaf, bydd trigolion 18 oed a hŷn sy’n byw o fewn rhanbarth y bwrdd iechyd ac sydd dal i ddisgwyl eu dos cyntaf o frechiad coronafeirws yn medru manteisio ar apwyntiadau ‘galw heibio’ newydd.
Gan nad oes angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw, bydd yr apwyntiadau galw heibio ar gael yn y rhan fwyaf o ganolfannau brechu cymunedol yn y rhanbarth. Dylai unrhyw un sydd eisiau manteisio ar yr apwyntiadau galw heibio dos cynaf ddod ag ID gyda nhw, fel pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustod i brofi eu cyfeiriad.
Mae hyn yn cynnwys Ravens Court yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AP) lle bydd apwyntiadau galw heibio ar gael rhwng 9.15am – 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Nid yw’n cynnwys Canolfan Chwaraeon Maesteg, lle mae’r amserlen dos cyntaf wedi’i chwblhau ac mae gweithgareddau’n dod i ddiwedd er mwyn caniatáu paratoadau ar gyfer trydydd cam y rhaglen frechu.
Mae trefniadau ar gyfer apwyntiadau ail ddos yn parhau a byddant yn rhedeg ochr yn ochr â brechiadau galw heibio fel arfer.
Ar draws rhanbarth Cwm Taf, mae 88 y cant o oedolion cymwys wedi cael eu dos cyntaf, ac mae 65 y cant wedi cael eu brechu'n llawn. Gan fod mwy na 561,600 o frechiadau wedi cael eu rhoi, mae’r apwyntiadau galw heibio newydd yn ffurfio rhan o’r strategaeth ehangach i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hanghofio.
Mae'r pandemig ymhell o fod wedi dod i ben, ac er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel rhag coronafeirws, mae'n gwbl hanfodol i bobl sicrhau eu bod yn derbyn y ddau ddos o'r brechiad.
Bydd y clinigau galw heibio yn cynnig cyfle i unrhyw un sydd wedi gwrthod neu golli eu hapwyntiad cyntaf ddal i fyny, ac i wneud eu rhan i gadw eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu cymdogion a'u hunain yn ddiogel rhag Covid-19.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Am ragor o wybodaeth ynghylch brechiadau Covid-19, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.