Newidiadau newydd sylweddol i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 03 Rhagfyr 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynlluniau uchelgeisiol newydd, allai newid gwedd ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn amcanu i ddarparu cyfres o welliannau sylweddol yn ystod y 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys cynigion megis creu sgwâr newydd yn y dref, symud Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i ganol y dref, trawsnewid adeiladau gwag ac wedi'u hesgeuluso yn siopau a thai newydd, gwella mynediad i gerbydau, ail-leoli’r orsaf heddlu, llunio mynediad newydd i'r orsaf drenau, cyflwyno tirlun newydd a llawer mwy.
Mae wedi cael ei ddylunio gan ymgynghorwyr arbenigol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i greu ardaloedd agored gwell o fewn canol y dref, a cheisio cydbwysedd gwell rhwng manteision pedestreiddio a gofynion ar gyfer mynediad gwell.
Mae'r cynllun yn ceisio cynyddu'r nifer o bobl sy'n siopa, byw, ymweld ac yn mwynhau canol y dref gan ddefnyddio dull 'parthol' ar gyfer gwella cyfleoedd manwerthu, creu ardaloedd swyddfa a masnachol, cyflwyno gweithiau bro newydd a darparu cyfleusterau trafnidiaeth gwell.
Ar ôl derbyn safbwyntiau ac adborth ar y cynigion gan berchnogion busnes a rhanddeiliaid ehangach, mae'r cyngor eisiau gwybod beth yw barn preswylwyr lleol am y cynlluniau.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae'r uwchgynllun hwn yn cynnwys rhai o'r datblygiadau mwyaf uchelgeisiol sydd wedi cael eu cynnig ar gyfer canol y dref erioed, ac rydym eisiau i bobl ddweud eu dweud ar sut mae'r gwaith yn digwydd.
"Mae'n darparu cyfle enfawr i addasu a gwneud newidiadau sydd yn adlewyrchu tueddiadau modern o ran sut mae canol trefi yn cael eu defnyddio fwyfwy, a thrawsnewid ac adfer tref Pen-y-bont ar Ogwr yn galon y gymuned sydd wedi ei hadeiladu o'i hamgylch.
“Yn ogystal â cheisio troi adeiladau gwag yn dai newydd a chyfleoedd manwerthu, mae eisiau ail siapio canol y dref drwy greu cyfleusterau a nodweddion newydd, gan wella cysylltiadau traffig a theithio hanfodol, a chynyddu'r defnydd o ardaloedd gwyrdd i bobl eu mwynhau.
“Mae'r cynllun hefyd eisiau datblygu rhannau o ganol y dref nad ydynt wedi cael eu defnyddio i'w llawn botensial hyd heddiw, gwella cysylltiadau gyda nodweddion diffiniol megis Afon Cwm Ogwr, a darparu ardaloedd i bobl gerdded neu feicio.
"Yn ogystal, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfoethog o hanes, ac mae'r cynllun newydd eisiau adlewyrchu hyn drwy sefydlu cysylltiadau gwell gyda'i etifeddiaeth ddiwylliannol.
"Wrth i ni edrych y tu hwnt i bandemig coronafeirws a Brexit, rwy'n credu'n fawr bod yr uwchgynllun yn cynnig ffordd unigryw ymlaen ar gyfer sicrhau dyfodol canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn sicrhau eu bod y dweud eu dweud ar ei gynigion pan fydd yr ymgynghoriad ar agor."
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Mae'r ffordd mae pobl yn siopa, ymweld ac yn defnyddio canol trefi yn parhau i newid, ac mae'n amlwg iawn bod angen gweithredu newidiadau a gwelliannau a gynlluniwyd yn ofalus, er mwyn manteisio ar hyn a sicrhau nad yw Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei anghofio.
"Mewn perthynas â hyn, mae'r uwchgynllun wedi cael ei lunio i fod yn gatalydd ar gyfer twf yn y dyfodol, ac i arwain gwaith datblygu ac adfywio gan ddefnyddio dull 'parthol' clir, fydd yn cefnogi ceisiadau ar gyfer mathau arbennig o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, buddsoddiadau preifat a mwy.
"Mae'n addo darparu pennod gyffrous uchelgeisiol newydd i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, fydd yn cefnogi twf economaidd a ffyniant yn y dyfodol, felly sicrhewch fod eich barn yn cael ei lleisio yn rhan o hyn."
Bydd ymgynghoriad Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn fyw rhwng dydd Llun 7 Rhagfyr 2020 a dydd Llun 1 Mawrth 2021. Gallwch ddarllen cynigion, safbwynt a gwylio fideo eglurhaol yr uwchgynllun, a dysgu mwy am sut i leisio eich barn drwy ymweld â thudalen ymgynghoriadau yn www.bridgend.gov.uk