Newidiadau mewn rheolaeth Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Merthyr Mawr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 24 Rhagfyr 2020
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau i ddiogelu Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Merthyr Mawr pan ddaw ei les rheolaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn ardaloedd o gefn gwlad ble mae enghreifftiau arbennig o gynefinoedd a bywyd gwyllt Prydain yn cael eu gwarchod.
Bydd CNC yn parhau â’i waith ym Merthyr Mawr, sy’n gartref i dywyn uchaf Cymru, y Big Dipper, drwy’r prosiect adfer twyni Sands of LIFE.
Nod y prosiect yw adfywio twyni tywod drwy ailgreu symudiadau naturiol ac adfywio cynefinoedd, sydd yn gartref i lawer o fywyd gwyllt mwyaf prin y DU.
Mae Merthyr Mawr yn hafan i fywyd gwyllt ac mae’r system dwyni yn ymestyn dros 840 erw – sef maint 340 o gaeau rygbi rhyngwladol.
Er bod les CNC i reoli cadwraeth y safle gwarchodedig hwn yn dod i ben, mae CNC ac Ystad Merthyr Mawr yn parhau yn ymrwymedig i warchod y cynefin arbennig hwn.
Mae CNC yn cydweithio â’r ystad i greu Cytundeb Gwarchodfa Natur ar gyfer rheolaeth nodweddion arbennig y safle i’r dyfodol, ac i gynnal ei statws fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg ac adfywio, Charles Smith
Mae Twyni Merthyr Mawr hefyd yn derbyn cefnogaeth gan brosiect ‘Dunes 2 Dunes’ dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â’r nod o gynyddu bioamrywiaeth, gwella cynefinoedd, adfer llwybrau a ffiniau ac addysgu ymwelwyr.
Yn gynharach y mis hwn, enillodd Clwb Golff Y Pîl a Chynffig, sydd hefyd wedi derbyn cymorth gan ‘Dunes 2 Dunes’, y wobr o Brosiect Amgylcheddol Arbennig y Flwyddyn 2021 yng Ngwobrau Amgylcheddol Golff, am ei waith yn adfer a gwella tirlun tywyn o arwyddocad rhyngwladol, ar hyd arfordir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig.
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.