Newidiadau i'r gwasanaeth banc bwyd
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 24 Mawrth 2020
Mae banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yn newid y ffordd y maent yn rhedeg eu gwasanaeth yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws.
Bydd banciau bwyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn cyhoeddi codau e-gyfeirio yn hytrach na thalebau banc bwyd i sicrhau nad oes unrhyw gyswllt wyneb yn wyneb.
Hyd nes y bydd hysbysiad pellach bydd yn rhaid i gleientiaid aros y tu allan i ganolfan y banc bwyd tra bydd gwirfoddolwyr yn dod â'r parseli bwyd wedi'u pacio iddynt.
Mae'r mesurau hyn wedi'u rhoi ar waith er diogelwch a llesiant cleientiaid a gwirfoddolwyr. Ni chaiff unrhyw eitemau eu cyfnewid ac ni chaiff unrhyw fyrbrydau na diodydd eu darparu yn y ganolfan.
Mae'r banciau bwyd ym Metws, Cymer, Caerau a Bro Ogwr wedi'u cau dros dro.
Dilynwch Fanc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr ar Twitter @BEndFoodBank neu BridgendFoodbank ar Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd agor.