Newidiadau i'r cabinet wedi'u cadarnhau yng nghyfarfod blynyddol y cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Hydref 2020
Mae nifer o newidiadau newydd i gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cadarnhau yng nghyfarfod blynyddol y cyngor.
Ar ôl pum mlynedd yn y rôl, mae'r Cynghorydd Phil White wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.
Yn rhoi sylwadau ar ei benderfyniad, dywedodd y Cynghorydd White, a oedd cynt wedi gwasanaethu am bum mlynedd fel Aelod y Cabinet dros Gymunedau: "Gyda pandemig presennol y coronafeirws yn dwysáu fy mhroblemau iechyd personol, mae'r amser yn iawn i mi roi'r gorau i'm rôl yn y cabinet.
"Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn her, nid yn unig i mi ond i'r awdurdod yn ei gyfanrwydd, a chredaf ei bod yr amser iawn i rywun arall barhau yn y rôl honno.
"Wrth i'r cyfarwyddwr newydd dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gychwyn ei waith yn y cyngor, mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi gymryd y cyfle i gamu i'r ochr hefyd.
"Mae gwasanaethu fel Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr a swyddogion i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer rhai o'r trigolion sydd fwyaf agored i niwed yn y fwrdeistref sirol wedi bod yn un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd.
"Gwnaf barhau i wasanaethu'r gymuned fel aelod ward dros Gaerau, a gwnaf gadw fy nghysylltiadau fel aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
"Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r arweinydd, fy nghyd-aelodau yn y cabinet, a'r swyddogion sydd wedi fy narparu â chefnogaeth ac arbenigedd o ansawdd mor uchel dros y blynyddoedd.
"Mae gweithio mewn llywodraeth leol yn aml yn dasg heb ddiolch, yn enwedig pan mae penderfyniadau cynyddol anodd wedi cael eu gorfodi arnom ni. Ar ôl degawd llawn o doriadau i'r cyllid rydym yn ei dderbyn, mae'n sicr yn wir fod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai o'r caletaf i ni eu hwynebu.
“Fodd bynnag, rwy'n ymddeol o'r rôl hon yn gwybod ein bod wedi llwyddo i flaenoriaethu a gwarchod y gwasanaethau craidd hanfodol mae ein trigolion sydd fwyaf agored i niwed yn dibynnu arnynt, ac y bydd y cyngor hwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni edrych tuag at beth bynnag ddaw â'r dyfodol.”
Mae Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar newydd wedi cael ei chadarnhau fel y Cynghorydd Nicole Burnett. Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Burnett: “Mae'r Cynghorydd White yn gadael etifeddiaeth sylweddol, ac mae'n anrhydedd i mi gymryd y rôl hon.
"Mae cefnogi a diogelu trigolion hŷn a phobl ag anableddau dysgu a chorfforol, namau ar y synhwyrau, neu broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r cyngor hwn.
“Rwy'n falch iawn o gael y cynnig i gadeirio pwyllgor hanfodol y cabinet ar rianta corfforaethol, lle byddwn yn canolbwyntio ar lesiant ein plant a phobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed.
"Fel rhywun sy'n credu'n angerddol mewn cyfiawnder cymdeithasol ac adeiladu cymunedau cryf, iach a gweithgar, gwnaf bopeth y gallaf i'w cefnogi, ac i hybu eu buddiannau."
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Mae'r Cynghorydd White wedi cynnig gwasanaeth diflino yn ystod ei gyfnod fel Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, a gwn ei fod wedi gwneud hyn wrth iddo ddelio gyda phroblemau iechyd sylweddol ei hun.
"Ni wnaeth adael i hyn ei atal rhag cyflawni ei gyfrifoldebau o gwbl, ac mae wedi parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol drwy gydol pandemig presennol y coronafeirws.
"Yn ychwanegol i'w gyfrifoldebau fel aelod cabinet a ward dros Gaerau, mae hefyd wedi bod yn hyrwyddwr swyddogol y cyngor ar gyfer gofalwyr, pobl hŷn, a phlant a phobl ifanc, ac mae ei ymroddiad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi'n bersonol, ac i'w gydweithwyr.
"Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd i wasanaethu gyda'r Cynghorydd White. Mae wedi cynnig cefnogaeth ardderchog i mi dros y blynyddoedd, ac mae ganddo bob rheswm i deimlo'n falch o'i wasanaeth i bobl y fwrdeistref sirol.
"Mae'r Cynghorydd Burnett wedi arddangos ymroddiad ac ymrwymiad tebyg, a does gen i ddim amheuaeth o gwbl y gwneith gyflawni cyfrifoldebau y rôl bwysig hon yn llwyddiannus.
“Rwyf yn falch ei bod wedi derbyn y swydd hon, a gyda fy nghydweithwyr yn y cabinet, hoffwn estyn croeso cynnes iddi.”
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y cyngor ar ddydd Mercher 30 Medi.