Newidiadau i'r amserlenni bysiau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Awst 2018
Dylai defnyddwyr bysiau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nodi amserlen bysiau ddiwygiedig sydd wedi'i chyflwyno gan First Cymru ar gyfer gwasanaethau lleol.
Mae'r amserlen ddiwygiedig wedi cael ei chyflwyno er mwyn ystyried y gwasanaethau bws hynny na fyddant yn derbyn cymhorthdal gan y cyngor mwyach, sy'n ceisio cwmpasu diffygion gwerth nifer o filiynau o bunnoedd yn y cyllid y mae'n ei dderbyn.
Yn wreiddiol, roedd y cyngor wedi bwriadu gostwng y swm y mae'n ei dalu i gwmnïau bws preifat am ddarparu gwasanaethau na fyddent fel arall yn fasnachol hyfyw o £699,193 yn 2017-18 i £516,800 yn 2018-19. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, adolygwyd hyn i £566,800 ar gyfer 2018-19 ar ôl i'r awdurdod gytuno i dalu cymhorthdal llawn i dri o'r llwybrau bysiau mwyaf poblogaidd.
Mae'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i warchod cymaint o wasanaethau â phosibl wrth sicrhau bod yr awdurdod yn llwyddo i ddod o hyd i'r arbedion y mae angen iddo eu gwneud.
Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol er mwyn gwarchod cymaint o wasanaethau â phosibl ar gyfer y dyfodol hyd y gellir ei ragweld.
Fodd bynnag, mae angen i bobl ddeall y gallai'r gwasanaethau gael eu colli'n gyfan gwbl os na chânt eu defnyddio. Os yw niferoedd y teithwyr yn isel ar hyd llwybrau penodol, ni fydd cwmnïau bysiau yn darparu gwasanaeth oni fydd y cyngor yn rhoi cymhorthdal iddynt er mwyn gwneud hynny. Mae'r neges i'w ddefnyddio neu ei golli yn gryf iawn yma, felly rwy'n gobeithio y bydd pobl leol yn talu sylw penodol i hyn.
Fel pob cyngor lleol, rydym yn prysur gyrraedd at sefyllfa lle mae'n bosibl y byddwn yn gorfod canolbwyntio ar wasanaethau statudol y mae'n rhaid eu darparu yn ôl y gyfraith. Yr unig beth fydd yn newid hyn yw os bydd Llywodraeth y DU yn lleihau ei mesurau llymder presennol, ac yn rhoi'r arian i'r cynghorau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddibynnu arno er mwyn darparu gwasanaethau yn y gymuned.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Dechreuodd newidiadau i'r amserlenni ar ddydd Llun 13 Awst ac maent yn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:
62 Pencoed i Ben-y-bont ar Ogwr:
- Mae'r teithiau 1753 a 1901 o Ben-y-bont ar Ogwr wedi'u cyfnewid ag un gwasanaeth am 1835.
- Ni fydd y 1820 o Bencoed (Kennedy Way) yn rhedeg mwyach.
63 Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl
- Mae'r gwasanaeth bellach yn rhedeg bob 20 munud o Ben-y-bont ar Ogwr i Borthcawl yn hytrach na phob 15 munud.
63B Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl (trwy Mawdlam a Phwll Cynffig):
- Mae'r gweithredwr wedi canslo'r gwasanaeth hwn ac wedi dychwelyd y cymhorthdal i'r cyngor. Mae gweithredwr arall yn cael ei geisio ar hyn o bryd.
68 a 69 Pen-y-bont ar Ogwr i Gefn Glas:
- Bydd yr ymadawiad olaf am Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer y 68 am 1900.
- Bydd yr ymadawiad olaf am Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer y 69 am 1930.
- Bydd y 69 bellach yn teithio ar hyd Heol y Nant i Heol San Illtyd yn hytrach na Heol y Gorllewin, Rhodfa Westfield, Ystrad Fawr a Heol Glannant.
Bydd newidiadau eraill i amserlenni'r bysiau yn cynnwys y canlynol:
81 Pen-y-bont ar Ogwr i Ben-y-Fai
- Bydd amserlen a llwybr diwygiedig yn cael eu cyflwyno o ddydd Llun 3 Medi 2018 na fydd bellach yn cynnwys y teithiau 0813 a 1515 o Ben-y-Fai i Ben-y-bont ar Ogwr.
52 Pen-y-bont ar Ogwr i Broadlands
- Mae'r gweithredwr wedi cofrestru gwasanaeth di-gymorthdal er mwyn darparu chwe thaith rhwng dydd Llun a dydd Gwener, gyda phum taith ar ddydd Sadwrn.
73 Y Pîl i Ben-y-bont ar Ogwr
- Ni fydd y gweithredwr yn rhedeg y gwasanaeth hwn bellach ac mae wedi gwneud cais i'w ganslo gyda Swyddfa'r Comisiynydd Traffig.
51 Pen-y-bont ar Ogwr i Oaklands
803 Danygraig i Borthcawl
61 Notais i Borthcawl
- Bydd yr holl wasanaethau uchod yn parhau i gael cymhorthdal gan y cyngor am y flwyddyn nesaf o leiaf.