Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y Pasg

Bydd rhai newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros benwythnos gŵyl banc y Pasg.

Bydd Kier, sef partner gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio fel arfer Ddydd Gwener y Groglith 2 Ebrill ond ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 5 Ebrill.

O ganlyniad, bydd gwastraff ac ailgylchu yn cael eu codi un diwrnod yn hwyrach nag arfer am weddill yr wythnos honno hyd at ddydd Sadwrn 10 Ebrill.

Gallwch ailgylchu llawer o'r deunydd pacio ar wyau Pasg – gellir gwahanu'r bocsys cardbord, deunydd lapio plastig a deunydd lapio ffoil i gyd a'u rhoi yn eich cynwysyddion ailgylchu.

Mae canolfannau ailgylchu cymunedol yn parhau i fod ar agor ar gyfer defnydd hanfodol a byddant yn dychwelyd i oriau'r haf o 1 Ebrill - 8.30am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 8.30am tan 5pm ddydd Sadwrn a dydd Sul. Gyda rheolau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle efallai y bydd ciwiau felly gofynnwn yn garedig i breswylwyr fod yn amyneddgar.

Os ydych chi'n manteisio i’r eithaf ar dywydd y gwanwyn i wneud rhywfaint o arddio, cofiwch bod cofrestriadau bellach ar agor ar gyfer casgliadau ailgylchu gwastraff gardd eleni.

Hoffem atgoffa preswylwyr, os bydd rhywun yn eu cartref yn dangos symptomau coronafeirws, y dylai eu hancesi papur gael eu gosod mewn dau fag a'u gosod i un ochr am 72 awr cyn eu rhoi yn y bag gwastraff. Ni ddylid rhoi hancesi papur cegin, papur toiled na cadachau yn eich bagiau ailgylchu na'ch biniau sbwriel cyhoeddus, er mwyn cadw preswylwyr a chriwiau casglu Kier yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we gwastraff ac ailgylchu'r cyngor.

Chwilio A i Y