Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a sbwriel dros Ŵyl y Banc
Poster information
Posted on: Dydd Iau 22 Awst 2019
Ni fydd unrhyw ailgylchu na sbwriel yn cael eu casglu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun 26 Awst, oherwydd Gŵyl y Banc, felly, bydd casgliadau un diwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos tan ddydd Sadwrn 31 Awst.
Atgoffir trigolion sy'n bwriadu mynd am 'drip i'r tip' dros Ŵyl y Banc fod canolfan ailgylchu'r gymuned yn cynnig oriau agor dros yr Haf ar hyn o bryd, sef 8.30am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 8.30am tan 5pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Mae'r holl wybodaeth am yr hyn y gallwch ac na allwch ei ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael yn www.recycleforbridgend.wales