Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff oherwydd gŵyl y banc
Poster information
Posted on: Dydd Iau 29 Ebrill 2021
Bydd ychydig o newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yr wythnos nesaf.
Ni fydd casgliadau ailgylchu a gwastraff ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Llun, 3 Mai oherwydd Gŵyl Banc Calan Mai, felly bydd casgliadau'n digwydd un diwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos hyd at ddydd Sadwrn, 8 Mai.
Cofiwch y gall preswylwyr gofrestru am gasgliadau tymhorol ailgylchu gwastraff gardd erbyn hyn hefyd, a bod canolfannau ailgylchu cymunedol wedi dychwelyd i oriau agor yr haf, sef 8.30am - 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac 8.30am - 5pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Dylech fod yn ymwybodol y gall y gatiau gau hyd at ugain munud yn fuan. Mae hyn er mwyn darparu ar gyfer ceir sydd eisoes yn ciwio ar y safle cyn i'r ganolfan ailgylchu gau.