Neges ddiogelwch y pandemig yn cael ei lledaenu gan Spiderman a'i ffrindiau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Chwefror 2021
Mae preswylwyr ar draws Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn cymryd rhan mewn fideo byr i annog pobl i barhau i ddilyn canllawiau coronafeirws.
Mae'n cynnwys yr arwr codi arian Richard Durston, sydd wedi codi arian ar gyfer y GIG drwy wisgo fel Spiderman, yn ogystal ag aelodau o glybiau chwaraeon lleol, sefydliadau cymunedol a'r sector gofal cymdeithasol, ac mae'r fideo yn dweud y dylai preswylwyr barhau i gadw at y rheolau tra bo coronafeirws yn dal yn bresennol.
Cynghorir preswylwyr i barhau i olchi eu dwylo, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen, a gadael gartref am resymau allweddol yn unig.
Os oes gennych dymheredd uchel, peswch newydd, parhaus neu'ch bod wedi colli neu wedi sylwi ar newid yn eich synnwyr arogli neu flasu, mae'n rhaid i chi hunanynysu a threfnu prawf drwy ffonio 119 neu ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru.
I wylio'r fideo, ewch i dudalen Facebook y cyngor.