Nam ledled y DU sy’n effeithio ar oleuadau stryd lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 13 Ionawr 2021
Mae awdurdodau lleol ledled y DU yn adrodd problemau gyda goleuadau stryd sy’n cynnau ac yn diffodd eu hunain mewn niferoedd mawr.
Ar hyn o bryd mae tîm Goleuadau Stryd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio ac yn amcangyfrif y gallai tua 7,000 o golofnau goleuadau lleol gael eu heffeithio.
Credir bod y nam yn broblem feddalwedd sy’n effeithio ar dechnoleg leoli fyd-eang sy’n cyfrifo faint o’r gloch mae’r haul yn codi ac yn machlud.
Rhoddir sicrwydd i breswylwyr nad oed angen iddynt adrodd ar y mater gan ei fod eisoes yn cael ei drin.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau: “Mae'r rhan fwyaf o’r 20,000 o oleuadau stryd sydd gennym ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu ar ffotogelloedd sy’n cynnau ac yn diffodd mewn ymateb i lefelau’r golau dydd sydd ar gael.
“Fodd bynnag, mae tua 7,000 yn cyflawni’r un swyddogaeth gan ddefnyddio technoleg leoli fyd-eang. Gan ei bod yn ymddangos bod hwn yn fater meddalwedd sy’n effeithio nid yn unig ar Ben-y-bont ar Ogwr ond ardaloedd fel Bryste a Manceinion hefyd, rydym yn cysylltu â’r gwneuthurwyr fel mater o frys fel y gellir cywiro’r broblem cyn gynted â phosib.
“Gallaf sicrhau preswylwyr fod y cyngor yn gweithio i ddatrys y mater hwn, felly peidiwch â chysylltu â ni i adrodd ar y mater gan y bydd hyn yn clymu adnoddau.
“Bydd diweddariadau pellach yn dilyn wrth i'r sefyllfa ddatblygu.”