Mynd â chŵn am dro ar draethau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Mai 2020
Mae cyfyngiadau blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ganiatáu cŵn ar draethau Rest Bay, y Dref, Coney a Bae Trecco wedi dechrau a byddant ar waith o 1 Mai tan 30 Medi 2020.
O ystyried yr angen i aros gartref cymaint â phosib yn ystod pandemig y coronafeirws COVID-19, i deithio am resymau hanfodol yn unig a'r posibilrwydd o lacio'r gofynion cyfyngiadau symud dros y misoedd nesaf, mae'r cyngor wedi penderfynu peidio â diwygio'r is-ddeddfau a fyddai'n caniatáu i gŵn ddefnyddio’r traethau hyn tra bod y pandemig yn mynd rhagddo.
Mae hawl mynd â chŵn am dro drwy'r flwyddyn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, traeth Sger a thraeth Newton.
Lle bynnag y byddwch yn mynd, cofiwch gael gwared ar eich baw ci mewn ffordd gyfrifol.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y cyngor.