Myfyrwyr yn paratoi i dderbyn canlyniadau Safon Uwch ac UG safonedig ar gyfer 2020
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 12 Awst 2020
Bydd myfyrwyr a disgyblion ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darganfod beth yw eu canlyniadau Safon Uwch ac UG safonedig yfory (dydd Iau 13 Awst).
Mae ysgolion wedi cysylltu â rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a dysgwyr yn barod gyda manylion ar sut y byddant yn derbyn eu canlyniadau, sydd wedi'u cyfrifo gan fwrdd arholi Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) gan ddefnyddio proses safoni yn dilyn y penderfyniad i ganslo arholiadau oherwydd pandemig y coronafeirws COVID-19.
Mae'r broses safoni'n digwydd dros sawl cam, a'i nod yw rhoi'r radd fwyaf tebygol y gellid bod wedi'i chyflawni dan amgylchiadau normal pe na fyddai pandemig.
Yn ystod y cam cyntaf, mae ysgolion a cholegau'n cyfrifo'r trefnau rhestrol a'r graddau sydd wedi'u hamcangyfrif ar gyfer pob dysgwr. Mae hyn yn seiliedig ar amrediad eang o wybodaeth sy'n cynnwys gwaith cwrs, ffug arholiadau, gwaith yn y dosbarth, gwaith cartref, gwaith ymarferol ac asesiadau athrawon.
Unwaith y mae hyn wedi'i gwblhau, mae'r graddau sydd wedi'u hamcangyfrif ar gyfer pob dysgwr yn cael eu hanfon at CBAC ar gyfer cam nesaf y broses. Mae CBAC yn cymryd yr holl wybodaeth hon ac yn rhoi gweithdrefn safoni ar waith sy'n sicrhau cysondeb ar draws graddau ac yn osgoi amcangyfrifon sy'n rhy isel neu uchel.
Yng ngham olaf y broses, mae CBAC yn defnyddio'r trefnau rhestrol a ddarperir gan ysgolion a cholegau i ddyrannu gradd derfynol i bob dysgwr.
Oherwydd y trefniadau anarferol ar gyfer 2020, ni ellir adolygu marciau arholiadau yn y ffordd arferol ar gyfer unrhyw un a allai fod yn anfodlon ar eu graddau safonedig.
Yn hytrach, bydd dysgwr yn gallu gofyn i'w ysgol neu goleg i wirio nad oedd unrhyw gamgymeriadau o safbwynt cyflwyno'i ddata, a bydd ysgolion a cholegau yn gallu gwneud apêl i CBAC ar ran y dysgwr.
Hoffwn ddymuno pob lwc i bob un o'n disgyblion a myfyrwyr ar gyfer eu canlyniadau yfory.
Mae canslo'r arholiadau ffurfiol a'r ffaith fod CBAC yn defnyddio'r broses safoni yn ganlyniad uniongyrchol i bandemig y coronafeirws COVID-19, a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i wneud yr hyn oll o fewn ei allu i gefnogi ein hysgolion lleol a’n dysgwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Os ydych am gael mwy o fanylion, ceir cyfres o gwestiynau cyffredin, gwybodaeth am y broses apelio, a mwy ar wefan Cymwysteraus Cymru.