Mwy o wastraff cartref yn cael ei ailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu Cymunedol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 21 Mehefin 2018
Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu mwy nag erioed ar garreg y drws, ac mae cynnydd mawr hefyd yn y gwastraff a gaiff ei ailgylchu yn y tair Canolfan Ailgylchu Gymunedol.
Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, cafodd 89 y cant o’r deunydd gwastraff a gludwyd i’r canolfannau yn Llandudwg, Brynmenyn a Maesteg ei ailgylchu, o’i gymharu ag 82 y cant yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Mae’r cynnydd hwn yn cael ei briodoli i’r newidiadau a gyflwynwyd yr haf diwethaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartner ailgylchu, Kier. Mae gofyn i bawb sy’n ymweld ag unrhyw un o’r safleoedd hyn wahanu eu gwastraff fel bod unrhyw beth y gellir ei ailgylchu yn mynd i’r sgip cywir, ac nad oes dim ond yr eitemau na ellir eu hailgylchu yn mynd i’r sgip gwastraff cyffredinol.
Rydym wrth ein boddau â’r ffordd y mae’r trigolion wedi addasu i’r newidiadau hyn. Maen nhw wedi derbyn na allan nhw fynd i’r safle mwyach a thaflu llond bag o wastraff i mewn i sgip gwastraff cyffredinol heb dreulio amser yn didoli’r deunydd yn gywir.
Mae’n cymryd ychydig o amser i ddod i arfer â newidiadau fel hyn, felly pob clod i’r trigolion am dderbyn yr her i fod yn fwy gwyrdd ac ailgylchu cymaint â phosib. Diolch i drigolion lleol, dim ond 11 y cant o’r gwastraff a gyrhaeddodd ein Canolfannau Ailgylchu Cymunedol a aeth ymlaen i safleoedd tirlenwi yn ystod 2017-18, a gobeithio y gallwn ni wneud yn well fyth y flwyddyn nesaf
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
Mae’r deunydd gwastraff y gellir ei ailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu Cymunedol yn cynnwys batris (car a chartref), beiciau, bric-a-brac, caniau, cardbord, olew coginio, poteli nwy, poteli a jariau gwydr, gwastraff gwyrdd/gardd, eitemau trydanol ac electronig, oergelloedd/rhewgelloedd, olew injan, papur, paent, plastig, metel sgrap, pridd, tecstilau a phren.
Amseroedd agor y tair Canolfan Ailgylchu Gymunedol ar hyn o bryd ac yn ystod yr haf yw: 8.30am - 8pm (Llun - Gwener), 8.30am - 6pm (Sadwrn - Sul).
Os ydych yn bwriadu mynd â fan neu drelar i ganolfannau ailgylchu cymunedol Llandudwg neu Faesteg, cofiwch efallai y bydd angen trwydded tipio arnoch. Nid oes hawl mynd â fan neu drelar i ganolfan Brynmenyn. Mae trwyddedau tipio ar gael am ddim drwy ffonio’r cyngor ar 01656 643643 o leiaf 48 awr cyn ichi fynd i’r canolfannau ailgylchu.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y cyngor ei gyfradd ailgylchu flynyddol gyffredinol a oedd yn dangos bod y deunydd gwastraff a ailgylchwyd gan drigolion lleol wedi cynyddu o 58 y cant yn 2016-2017 i 68.5 y cant yn 2017-2018.
Ewch i wefan Ailgylchu dros Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am ailgylchu
: