Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Miloedd o goed newydd yn cael eu plannu i greu bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach

Mae miloedd o goed newydd wedi cael eu plannu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o fenter barhaus i wella ansawdd aer, lleihau llygredd ac erydiad pridd, a helpu i atal llifogydd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda nifer eang o sefydliadau partner i greu cymunedau glanach, gwyrddach ledled yr ardal, ac i nodi lleoliadau lle y gellir plannu rhagor o goed yn y dyfodol.

Hyd yn hyn, mae dros 4,330 o goed wedi cael eu plannu mewn ardaloedd megis y Sger, Cynffig, Caerau, y Pîl, Heol y Cyw, Glanrhyd, Bryngarw, Porthcawl a’r ardal o amgylch Ford Pen-y-bont ar Ogwr.

Yng Nghaeau Newbridge, mae’r cyngor yn gweithio gyda Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i ddod o hyd i le ar gyfer mwy na 2,000 o goed newydd, yn cynnwys perllan treftadaeth mewn cysylltiad â Mental Health Matters Wales, ac mae’r awdurdod hefyd wedi partneru â Cyfoeth Naturiol Cymru i blannu coed er mwyn cael gwared ar broblemau llifogydd fel rhan o Gynllun Cynefinoedd Cwm Garw Uchaf.

Gyda mwy na mil o goed wedi’u plannu yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig a miloedd yn fwy i ddod, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid ar nifer o fentrau a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol pellach i’n cymunedau lleol. Rydym hefyd yn ymrwymedig i hyrwyddo dull cyfrifol a chadarn o reoli coetiroedd yn unol ag arfer gorau presennol er mwyn sicrhau y gellir cynnal coed mewn iechyd da a’u hailblannu lle bydd angen.

Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch pwysigrwydd cynnal ac annog coed gwledig a threfol yn tyfu, ac mae’r cyngor yn awyddus i ddatblygu hyn ymhellach. Mae gennym nifer fwy na’r cyffredin o goed trefol yn y fwrdeistref sirol yn barod, ac rydym am fanteisio ar y buddiannau hirdymor sy’n gysylltiedig â hyn drwy weithio gyda phartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru i blannu mwy, yn enwedig yn ein hardaloedd poblog iawn.

Mae ymchwil wedi cadarnhau bod y coed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwared ar oddeutu 2,400 tunnell o garbon a 54 tunnell o lygredd o’r atmosffer bob blwyddyn, yn ailgyfeirio oddeutu 124 miliwn litr o ddŵr, ac yn darparu gwasanaethau ecosystemau gwerth mwy na £650,000. Gan fod buddiannau amlwg i’w cael o gynyddu nifer y coed yn y fwrdeistref sirol a chynnal ein gweithgareddau rheoli coetiroedd sy’n mynd rhagddynt, mae’r cyngor a’i bartneriaid wedi neilltuo adnoddau i nodi lleoliadau pellach, ac maent yn datblygu rhaglen waith wedi’i chostio a fydd yn helpu i gefnogi hyn. Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn datblygu, a gobeithio y caiff mwy o fanylion eu datgelu’n fuan iawn.

Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y