Mesurau newydd i ymdrin â straen Delta Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Mehefin 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y llacio pellach a gynlluniwyd ar gyfyngiadau'r pandemig wedi'i ohirio er mwyn ymdrin â lledaeniad straen Delta Covid-19.
Nawr, bydd y newidiadau dan sylw yn cael eu hadolygu ymhen pedair wythnos, ond mae rhai addasiadau'n cael eu gwneud i ofynion cyfredol.
Bydd nifer y bobl sy'n cael mynychu priodas, partneriaeth sifil, derbyniad neu de angladd wedi'i drefnu gan fusnes o fewn eiddo dan do wedi'i reoleiddio yn dibynnu ar faint y lleoliad, a chanlyniad asesiad risg.
Bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi llawr gwlad, bach yn cael gweithredu ar yr un sail â lleoliadau lletygarwch, megis tafarndai a chaffis, a bydd disgyblion ysgolion cynradd yn yr un grŵp cyswllt neu'r un swigen yn yr ysgol yn cael aros dros nos mewn canolfan addysg awyr agored breswyl.
Yn olaf, bydd digwyddiadau peilot mewn sectorau megis y theatr a chwaraeon yn bwrw ymlaen.
Wrth gyhoeddi'r gohiriad dros dro, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "O fewn ychydig wythnosau yn unig, mae amrywiolyn delta wedi cyrraedd Cymru ac wedi lledaenu drwy’r wlad yn gyflym.
"Bellach, dyma’r amrywiolyn mwyaf cyffredin mewn achosion newydd yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd.
"Gallai gohiriad o bedair wythnos cyn llacio cyfyngiadau helpu i leihau'r niferoedd uchaf o dderbyniadau dyddiol i’r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo'r GIG yn brysur iawn yn cefnogi ein holl anghenion gofal iechyd - nid trin coronafeirws yn unig.
"Yr wythnos hon, fe gyrhaeddon ni'r targed o gynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn cymwys, chwe wythnos yn gynharach nag y trefnwyd, ond ni fydd y cynigion hynny'n helpu i ddiogelu pobl oni bai fod pawb yn mynd i'w hapwyntiadau ar gyfer eu dos cyntaf a'u hail ddos.
"Rwy'n annog pawb i dderbyn y cynnig i gael brechlyn, ac i gwblhau'r cwrs llawn o ddau ddos. Dyma'r ffordd orau i ni allu diogelu ein hunain rhag y feirws hwn."
Rydyn ni wedi bod yn annog trigolion yn barhaus i beidio ag ymlacio'n ormodol mewn perthynas â choronafeirws, ac mae'n bwysicach nag erioed i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau. Er bod cyfradd achosion Cymru wedi cynyddu'n raddol ers diwedd mis Mai, ac er bod y gyfradd bositifedd wedi mwy na dyblu, mae'n parhau i fod yr isaf yn y DU.
Mae gennym raglen frechu sydd gyda'r gorau yn y byd, a bydd mwy na hanner miliwn o ddosau'n cael eu dosbarthu cyn hir. Gallwn gefnogi'r frwydr yn erbyn Covid-19 a'r straen Delta newydd drwy sicrhau ein bod ni'n cael dau ddos, a dilyn rheolau syml sydd wedi'u dylunio i'n cadw ni'n ddiogel. Rhaid inni beidio â llaesu dwylo – nid yw'r pandemig ar ben. Os ydych yn dewis cymysgu, gwnewch hynny yn yr awyr agored yn hytrach na dan do lle bynnag y bo modd, a chofiwch mai'r cyfyngiad awyr agored presennol yw 30 o bobl, ac mai chwe pherson o chwe aelwyd wahanol yw'r cyfyngiad dan do.
Arhoswch ddau fedr oddi wrth bobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig. Ceisiwch osgoi teithio i ardaloedd â chyfraddau uchel o goronafeirws, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgwch orchudd wyneb lle bo'n ofynnol. Os ydych chi, neu unrhyw un yn eich aelwyd yn datblygu symptomau, hyd yn oed rhai ysgafn, megis tymheredd uchel, peswch parhaus neu newid yn eich synnwyr arogli neu flasu, dylech hunanynysu a threfnu prawf. Wrth ymweld â siop, gwisgwch orchudd wyneb, defnyddiwch hylif diheintio dwylo, cadwch bellter cymdeithasol a dilynwch unrhyw ragofalon diogelwch eraill sydd ar waith. Cydymffurfiwch â'r holl weithdrefnau olrhain a phrofi, a threfnwch wyliau gartref - dylech deithio dramor dim ond os yw'n gwbl hanfodol gwneud hynny.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor Huw David
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen cyngor Covid-19 ar wefan y cyngor.