Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marsialiaid Tacsi Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu i greu strydoedd mwy diogel y mis Rhagfyr hwn

Bydd Marsialiaid Tacsi ar ddyletswydd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr y mis Rhagfyr hwn mewn ymgais i sicrhau taith ddiogel adref i bartiwyr.

Gan gyd-weithio’n agos â Heddlu De Cymru, nod y gwasanaeth yw darparu trosolwg - goruchwylio unrhyw sefyllfaoedd o aflonyddwch posib, yn ogystal â chynorthwyo’r rhai sy’n gadael ardaloedd bywyd nos Pen-y-bont ar Ogwr dros gyfnod y Nadolig.

Bydd dau Farsial Tacsi, sy’n gweithio ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, rhwng 11pm a 5am, ac yn gweithredu yn y safle tacsi ar Stryd y Farchnad a bydd dau arall ar y safle yn Ffordd Derwen.

Bydd Marsialiaid Tacsi ar ddyletswydd mewn digwyddiadau arbennig eraill ble disgwylir torfeydd, i oruchwylio ciwiau’r safle tacsi, i dawelu unrhyw gythrwfl, yn ogystal â sicrhau bod pethau’n aros mewn trefn.

Mae hon yn fenter bwysig i leihau ac atal problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol, sy’n aml yn arwain ar dor-cyfraith ac anhrefn.

Gall anhrefn mewn ciw tacsi achosi unrhyw beth, o ymosodiad corfforol i ddamwain ffordd, os nad yw’n cael ei reoli.

Gareth Newman, Arolygydd Plismona Lleol

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gyllido gan y fenter 'Strydoedd Mwy Diogel' newydd sydd wedi'i lansio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i fynd i'r afael â diogelwch merched, troseddau cymdogaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gan weithio ochr yn ochr â Heddlu De Cymru, diogelu’r cyhoedd yw’r flaenoriaeth. Rwy’n sicr bod cyflwyno Marsialiaid Tacsi yn adnodd amhrisiadwy, gan ein cynorthwyo i sicrhau diogelwch y rhai sydd yng nghanol tref Pen-y-bont ar gwr yn ystod oriau’r hwyr.

Bydd y stiwardiaeth weladwy a gynigir gan y Marsialiaid Tacsi yn darparu sicrwydd i yrrwyr tacsi a’r cyhoedd, drwy leihau unrhyw ymddygiad troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol posib. Mae rôl y swyddogion hyn yn ymwneud â doethineb, gofal a phenderfyniad - rôl fydd yn cael ei gwerthfawrogi gan nifer dros yr wythnosau nesaf, rwy’n siŵr.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y