Marchnadoedd stryd misol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau ddydd Sadwrn
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 14 Mawrth 2018
Cynhelir y farchnad stryd fisol gyntaf eleni yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 17 Mawrth. Bydd tua 20 o gabanau marchnad yn gwerthu bwyd, crefftau a chynhyrchion unigryw.
Bydd nifer o fusnesau lleol a masnachwyr o ardaloedd ehangach yn gwerthu eu nwyddau ar Stryd Caroline. Ymysg y stondinau newydd bydd ‘Dough To Go’, ‘The Craft Hand’ a ‘Good and Proper Brownies’ a bydd y rhain yn ymuno â’r stondinau rheolaidd fel ‘Wales Ales’, ‘VKMGEMZ’, ‘Simply Grace’ a’r wraig darllen dwylo, Anna Lee. Hefyd ceir cerddoriaeth Wyddelig fyw i ddathlu Dydd Gŵyl Sant Padrig.
Trefnir y farchnad stryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda chefnogaeth masnachwyr canol y dref sy’n rhan o’r grŵp ‘CF31’ a bydd yn cael ei chynnal rhwng 10am a 4pm. Cynhelir marchnadoedd eraill wedyn ar drydydd Sadwrn bob mis tan fis Hydref.
Roedd y marchnadoedd stryd misol a gynhaliwyd dros haf y llynedd yn boblogaidd iawn, felly rydym ni’n falch o’u croesawu yn ôl eto eleni. Mae’r marchnadoedd stryd yn ychwanegiad i’w groesawu yng nghanol y dref ac yn cynnig pob mathau o bethau i siopwyr, adloniant i’r plant a nifer o leoedd bwyta, ac mae’n ychwanegu at y farchnad dan do hefyd
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio.