Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad stryd Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn

Cynhelir marchnad stryd nesaf Pen-y-bont ar Ogwr yn Caroline Street ddydd Sadwrn 21 Ebrill, 10am hyd at 4pm, gydag amrywiaeth o fwyd, crefftau ac adloniant!


Bob trydydd dydd Sadwrn tan fis Hydref, bydd amrywiaeth o fasnachwyr lleol yn gwerthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd stryd misol sydd wedi’u trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda chefnogaeth y grŵp ‘CF31 Bid’.

Ymysg y stondinau ddydd Sadwrn yma bydd: Seidr a Pherai Cymreig Afal y Graig, Dough To Go, Wales Ales & Craft Beers, Palmist, Dzines by Jill a llawer mwy.

Mae’r marchnadoedd stryd misol yn dod â mwy o fasnach ac ymwelwyr i ganol tref Pen-y-bont, felly rydym yn hapus iawn eu bod yn ôl am flwyddyn arall. Mae’r marchnadoedd yn cynnig rhywbeth i bawb, o fwyd a chrefftau i adloniant i blant, ac maent yn ychwanegiad gwych at y farchnad dan do ddyddiol.

Mae’r aelodau Cabinet a’r cynghorwyr yn frwd iawn dros rôl Pen-y-bont fel tref farchnad. Yn ogystal â’r farchnad stryd, ewch i’r arcêd i gefnogi’r farchnad dan do hefyd, a chofiwch y gallwch barcio am ddim am yr awr gyntaf ym Maes Parcio’r Rhiw.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

I gael rhagor o wybodaeth ewch i ewch i Ardal Gwella Busnes Pen-y-bont ar Ogwr neu edrychwch ar dudalen Facebook CF31.

Chwilio A i Y