Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi i ail-agor

Mae nifer o fasnachwyr hanfodol yn paratoi i ail-agor eu busnesau ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Iau 3 Mawrth 2021.

Bydd becws, cigydd a deli yn ymuno â stondinau yn cynnig bwydydd iach a ffrwythau a llysiau, a bydd y farchnad dan do ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9am am 3pm.

Bydd system un ffordd yn cael ei roi ar waith gyda marciau dau fedr ar y llawr i helpu cwsmeriaid i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, a bydd safleoedd diheintio dwylo ar gael.

Bydd ailagor y farchnad dan do yn caniatáu i fasnachwyr hanfodol ddechrau masnachu unwaith eto. Mae stondinwyr wedi cael hyfforddiant Covid-19 ynghyd â chyfarwyddiadau ynghylch ymbellhau cymdeithasol ar gyfer y stondinwyr a’r cwsmeriaid yn y farchnad.

Bydd rhai siopau nad ydynt yn medru ailagor eto oherwydd meini prawf defnydd hanfodol Llywodraeth Cymru, yn cael eu cau nes bod y rheolau’n newid.

Bydd y farchnad yn cael ei monitro’n ofalus i sicrhau bod amgylchedd siopa a gweithio diogel yn cael ei gynnal, ac i leihau’r posibilrwydd o amlygu’r coronafeirws.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Mae ailagor y farchnad yn digwydd yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod cynllun rhent rhatach y cyngor ar gyfer masnachwyr y farchnad hefyd wedi'i ymestyn, gyda gostyngiad o 50 y cant ar waith ar hyn o bryd.

Chwilio A i Y