Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr i ailagor yn rhannol ddydd Llun 15 Mehefin

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr i ailagor yn rhannol ddydd Llun 15 Mehefin

Bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor ddydd Llun 15 Mehefin, a bydd pob busnes sydd wedi'i ddynodi'n 'hanfodol' yn gallu dechrau masnachu eto.

Bydd system unffordd yn ei lle, ac mae marciau wedi'u gosod ar y llawr bob dau fetr er mwyn helpu i sicrhau y bydd pobl yn cadw pellter cymdeithasol, ac mae gorsafoedd diheintio dwylo wedi'u gosod.

Drwy gytundeb â chanolfan siopa Rhiw, gellir cael mynediad trwy'r drysau mynediad wrth ymyl WH Smith.

Mae asesiad risg llawn wedi'i gwblhau, ac mae deiliaid stondinau wedi derbyn hyfforddiant COVID-19 ynghyd â chyfarwyddiadau ynghylch cynnal pellter cymdeithasol yn y farchnad er lles deiliaid stondinau a chwsmeriaid fel ei gilydd.

Dim ond wyth o stondinau sy'n cyfateb â'r categori ‘hanfodol’ o fanwerthwyr sydd â'r hawl i agor ar hyn o bryd, ond bydd y camau hyn hefyd yn galluogi'r broses o ailagor i ehangu pan fydd Llywodraeth Cymru'n cadarnhau bod cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach.

Mae'r siopau na allant ailagor eto oherwydd y meini prawf hanfodol wedi'u cau i ffwrdd. Byddwn yn parhau i fonitro drwy gydol y prosesau agor a gweithredu er mwyn sicrhau y gellir cynnal amgylchedd siopa a gwaith diogel er mwyn cyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio

Chwilio A i Y