Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mannau gwefru cerbydau trydan i gael eu cyflwyno ledled y fwrdeistref sirol

Disgwylir i waith ddechrau ar gamau cyntaf gosod mannau gwefru cerbydau trydan ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y gwaith gosod, sydd wedi cael ei ariannu drwy gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Hynod Isel (ULEV) Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn cynnwys sefydlu mannau gwefru yn y lleoliadau canlynol:

  • Arwyneb Stryd Bracla, canol tref Pen-y-bont
  • Maes Parcio a Theithio Gorsaf Drenau Pencoed
  • Maes Parcio Ffordd Tremaen, canol tref Pen-y-bont
  • Ffordd Castell-nedd, Heol Tŷ Gwyn, Maesteg
  • Maes Parcio Hillsboro Place, Porthcawl
  • Promenâd y Dwyrain, Porthcawl
  • Maes Parcio Aml-lawr Rhiw, Pen-y-bont
  • Maes Parcio Aml-lawr Maesteg, Ffordd Llynfi, Maesteg
  • Yr Esplanâd, Glan y Môr Porthcawl, Porthcawl
  • Maes Parcio Ffordd Tondu, Lewis Avenue, canol tref Pen-y-bont
  • Parcio a Theithio Gorsaf Sarn, Heol Persondy, Sarn

Mae cyflwyno’r mannau hyn yn rhan o brosiect rhanbarthol i gefnogi defnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru i allu gwneud defnydd o fannau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio cyhoeddus.

Disgwylir i’r rhai cyntaf yn y fwrdeistref sirol fod ar waith erbyn mis Medi 2022.

Bydd y mannau gwefru ychwanegol hyn yn chwarae rhan allweddol o ran datgarboneiddio cludiant a chefnogi’r symudiad tuag at gerbydau glanach. I alluogi gyrwyr i symud o gerbydau hŷn sy’n llygru’n fwy sylweddol, i gerbydau trydan, mae angen iddynt fod yn hyderus y bydd plygio’r car i mewn yn gyfleus ac yn ddiffwdan.

Gyda disgwyl i’r galw am fannau gwefru gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn falch o ddechrau’r gwaith gosod ledled y fwrdeistref sirol. Bydd sicrhau bod gan bawb fynediad rhwydd i’r mannau gwefru hyn yn helpu i gefnogi ein cynlluniau datgarboneiddio.

Rydym hefyd wrthi’n cadarnhau’r cynlluniau ar gyfer gosod mewn meysydd parcio eraill yn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys Canolfannau Byw, sef Garw ac Ogwr, a phyllau nofio Ynysawdre, Pencoed a’r Pîl.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Yn ogystal, mae Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi cael cyllid sylweddol ar gyfer gwefru ar y stryd a fflyd tacsis trydan, ac mae’n cydweithio â chynghorau ar wefrwyr ar gyfer meysydd parcio. Mae’r fwrdeistref sirol hefyd wedi cael dyfarniad o chwech o dacsis trydan a fydd ar gael ar sail ‘rhoi cynnig cyn prynu’ i weithredwyr presennol y fflyd tacsis.  

Mae £300,000 pellach o gyllid ar gael i’r awdurdod lleol drwy grant ULEV Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r cyllid yn cefnogi ymrwymiad yr awdurdod lleol i ddarparu cynllun cam wrth gam ar gyfer trydaneiddio pob fflyd a depo’r cyngor erbyn 2030, yn rhan o’i ymrwymiadau Carbon Sero Net.  

Gellid defnyddio’r cyllid i uwchraddio systemau pŵer a’r gefnogaeth ddigidol sydd ei hangen, yn ogystal â’r gwefrwyr. 

Mae hefyd yn debygol y bydd cyllid yn dod ar gael i barhau i gefnogi’r sector cyhoeddus a chymunedau i symud at ddefnyddio cerbydau allyriadau hynod isel.

Chwilio A i Y