Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mannau creadigol dros dro yn helpu i roi hwb i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn adnewyddu Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr gyda gweithgareddau a siopau dros dro drwy’r fenter PopUp Wales, sy’n rhan o’r prosiect ehangach Elevate and Prosper (EAP) - a ariennir gan Gronfa Adfywio Cymuned Llywodraeth y DU a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect wedi cael ei ddarparu gan asiantaeth adfywio greadigol lleol Urban Foundry. Mae’r prosiect wedi darparu cyfleoedd o hyfforddiant ymarferol i entrepreneuriaid, i weithdai Nadoligaidd a cherddoriaeth byw. 

Ers ei lansio, mae PopUp Wales wedi cefnogi dros 30 o fusnesau bach a 20 o sefydliadau gwirfoddol. Y prosiect yw’r fenter mannau dros dro gyntaf o’i math yn Ne Cymru, ac mae’n paru lleoedd manwerthu dros dro ag unigolion a busnesau sydd eisiau lle hyblyg, tymor byr a fforddiadwy er mwyn rhoi cynnig ar syniad.

Mae busnesau a mentrau lleol megis Tia Robbins Art, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, a Chaffi Wheely’s oll wedi manteisio ar y cynllun, ac maent yn gweithredu’n llwyddiannus yn eu lleoedd newydd. Gyda’i gilydd, mae dros ddeng menter newydd wedi cael eu paru ag unedau gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chyllid grant 100 y cant wedi cael ei ddosbarthu i saith busnes bach ac un sefydliad.  

Dywedodd Tia Robbins o Tia Robbins Art: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych, ac mae’n dangos bod unigolion wir eisiau siopau’n lleol.”

Dywedodd Rachel Bell, Rheolwr Canolfan yng Nghanolfan Siopa Rhiw: “Mae’r arian hwn wedi bod mor bositif. Mae cael sefydliadau megis Coleg Pen-y-bont mewn lleoliad wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Ganolfan Siopa Rhiw. Rydw i wir yn gobeithio y bydd y fenter yn parhau yn 2023.” 

Dywedodd Chris Pritchard o Gaffi Wheely’s: “Mae PopUp Wales wedi bod mor wych a chefnogol, ac mae’r digwyddiadau yn y farchnad wedi bod yn wych i fusnesau, a dylent gael eu cynnal bob penwythnos.”  

Dywedodd Tara Tarapetian o Urban Foundry: “Rydym wedi bod wrth ein boddau yn gweithio gyda Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr, gan ein bod wedi gallu darparu lleoedd dros dro i fentrau a sefydliadau newydd i roi cynnig ar eu busnes neu syniad heb risg, mewn lleoliad gwych yng nghalon tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ar yr un pryd, mae’r gweithgareddau crefftau a cherddoriaeth wir wedi cynyddu bwrlwm yr ardal, ac wedi ychwanegu rhywbeth ychydig yn wahanol i’r profiad siopa.”

Mae’r fenter PopUp Wales wedi dod â bywyd newydd i ganol tref Pen-y-bont, ac rydym yn falch iawn cael gweld y fath lwyddiannau gyda’r cynllun.

Mae’r cynllun yn ffordd wych o roi cynnig ar syniad busnes, ac mae’n rhoi’r cyfle i entrepreneuriaid ddangos eu gwasanaethau amrywiol i siopwyr Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chyfleoedd i gynnal sesiynau hyfforddi.

Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn parhau yn 2023 er mwyn i fwy o fusnesau elwa o’r teclynnau a’r wybodaeth a ddarperir ganddi i sefydlu syniad busnes llwyddiannus.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod y Cabinet dros Adfywio

Os oes gennych ddiddordeb mewn lle dros dro, ewch i wefan PopUp Wales.

(Ch-Dd) Tia Robbins o Tia Robbins Art a Chris Pritchard o Wheely's Cafe ar eu stondinau dros dro ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y