Mainc 'Eistedd a Sgwrsio' newydd ym mharc Porthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 30 Awst 2019
Mae 'mainc Eistedd a Sgwrsio' wedi cael ei pheintio mewn lliwiau llachar ym Mharc Griffin Porthcawl fel lle i bobl gymryd sedd os ydyn nhw'n hapus i siarad â phobl eraill.
Daeth y syniad gan yr athrawes gelf leol Jo Keen, ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy na pharod i gytuno.
Dywedodd Jo, sy'n athrawes yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen: "Fel y gwyddoch chi, mae iechyd meddwl, unigrwydd a diffyg cysylltiad rhwng pobl mewn cymunedau yn broblem fawr. Rydw i wedi gweld meinciau tebyg mewn ardaloedd eraill felly gofynnais i'r cyngor a fydden nhw'n fodlon i mi beintio mainc er mwyn gwneud hon yn un arbennig."
Am syniad ardderchog. Rydyn ni'n croesawu unrhyw beth sy'n helpu i ddod a phobl at ei gilydd felly roedd hi'n bleser gadael i Jo beintio'r fainc. Mae'n edrych yn wych a gobeithio y bydd yn cael llawer o ddefnydd.
Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar