Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Maes parcio Rest Bay yn ail-agor

Bydd maes parcio Rest Bay ym Mhorthcawl yn ail-agor ddydd Mawrth, 16 Mawrth.  

Cafodd ei gau yn gynharach yn y flwyddyn ar ôl i grwpiau mawr o yrwyr anwybyddu cyfyngiadau’r pandemig i aros gartref cymaint ag sy’n bosibl, ac i beidio â theithio i fynd am dro neu ymarfer corff.

Gyda chyfyngiadau lefel rhybudd pedwar yn dal i fod ar waith ledled Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa pobl bod Llywodraeth Cymru wedi argymell y dylai pobl ‘aros yn lleol’, gan ddefnyddio radiws o bum milltir fel rheol gyffredinol.

Os yw nifer achosion y coronafeirws yn parhau i leihau, bydd y rheol ‘aros yn lleol’ yn cael ei hadolygu yn ogystal â’r lefel rhybudd presennol.

Byddwn yn monitro’r maes parcio yn ofalus i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gyfrifol ac yn ddiogel.

Mae’r coronafeirws yn dal i fodoli, ac ni ddylwn laesu dwylo. Dylai preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont barhau i aros yn lleol a bod yn ofalus, a chymryd rhagofalon i gadw eu hunain, eu teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr yn ddiogel rhag yr haint.

Huw David, Arweinydd y Cyngor

Mae disgwyl i’r rheol ‘aros yn lleol’ fod ar waith tan 27 Mawrth. Bydd yn golygu y gall pedwar o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi, ac y gall cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau tenis a chyrsiau golff, ail-agor. 

Gall ymweliadau dan do â chartrefi gofal ail-ddechrau ar gyfer ymwelwyr unigol penodol, ond gofynnwch i’r cartrefi gofal i wneud yn siŵr oherwydd gall amgylchiadau unigol amrywio’n unol ag amodau pob cartref.

Bellach, gall siopau trin gwallt a barbwyr ail-agor ar gyfer apwyntiadau, ac mae’r holl ddisgyblion cynradd a’r rheiny ym mlynyddoedd 10 a 12 wedi dychwelyd i’r ysgol yn ogystal â disgyblion mewn blynyddoedd arholiadau a’r rheiny sy’n cyflawni cymwysterau tebyg mewn colegau.

O 22 Mawrth, bydd cyfleusterau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, megis canolfannau gerddi, yn dechrau ail-agor. Bydd hyn yn dechrau gyda siopau sydd ar agor ar hyn o bryd yn gallu gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol eto.

O 27 Mawrth, bydd y neges ‘aros yn lleol’ yn dod i ben a bydd pobl yn gallu teithio i unrhyw le yng Nghymru. Bydd llety hunangynhaliol a llyfrgelloedd yn gallu ail-agor, a bydd gweithgareddau awyr agored sydd wedi’u trefnu i blant yn gallu ail-ddechrau.  

O 12 Ebrill, bydd yr holl ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r Pasg, a rhagwelir y bydd yr holl siopau a gwasanaethau cyswllt agos, megis siopau harddwch, yn gallu agor.  

Os yw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn dal i wella, mae Llywodraeth Cymru’n rhagweld y bydd mesurau ychwanegol yn gallu cael eu llacio yn ystod y gwanwyn ym mhob adolygiad tair-wythnos, ac mae gobaith y bydd swigod aelwydydd yn gallu cael eu hymestyn a lletygarwch awyr agored yn gallu ail-agor ym mis Ebrill.  

Chwilio A i Y