Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Maer newydd yn dathlu cael ei urddo trwy drefnu casgliad banc bwyd

Nododd Maer newydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau ei flwyddyn yn y swydd trwy ofyn i’r gwesteion yn ei seremoni urddo ddod â rhoddion ar gyfer Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y Cynghorydd John McCarthy, sy’n cynrychioli ward Hendre, yn cael ei gefnogi yn ystod y flwyddyn nesaf gan ei wraig, Judy, a’r Cynghorydd Stuart Baldwin fydd y dirprwy faer.

Bydd Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cyhoeddi ei faer ieuenctid a’i ddirprwy faer ei hun yn fuan.

Mae’r Maer McCarthy wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu treulio’i flwyddyn yn cefnogi gofalwyr, gwirfoddolwyr cymunedol a rhai o’r diwylliannau amrywiol a’r grwpiau ethnig sydd yn yr ardal.

Bydd hefyd y cefnogi gwaith elusen Tenovus, Cymdeithas Strôc Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Parkinsons Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n fraint ac anrhydedd imi gynrychioli pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rwyf am ymweld â chynifer o grwpiau a sefydliadau cymuned leol â phosibl, a chefnogi clybiau gwasanaethau unedig a’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Rwyf hefyd yn dymuno annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, a phan fydd y maer ieuenctid a’r dirprwy faer ieuenctid wedi’u cyhoeddi, rwy’n bwriadu gweithio’n agos gyda nhw mewn partneriaeth ar hyn.

Fel Maer, rwy’n credu y gallaf helpu trwy gydnabod ac annog busnes newydd, cynorthwyo datblygiadau yn y dyfodol a chynnig cymorth a chyngor mewn modd cadarnhaol a fydd yn denu mentrau newydd i’r ardal. Rwy’n awyddus i weithio wrth ochr sefydliadau fel tîm Datblygiad Economaidd y cyngor er mwyn helpu i greu swyddi a ffyniant yn yr ardal.

Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at groesawu pobl o bob rhan o’r byd wrth iddyn nhw ddod yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig, ac yn drigolion sy’n byw ac yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Cynghorydd John McCarthy.

Os hoffech wahodd y Maer newydd i unrhyw ddigwyddiadau neu ddathliadau yr ydych yn eu trefnu yn ystod y flwyddyn nesaf, ffoniwch swyddfa’r Maer yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643250 neu anfonwch e-bost i mayor@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y