Maer a Dirprwy Faer newydd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Hydref 2020
Etholwyd maer newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng nghyfarfod blynyddol o bell cyntaf yr awdurdod lleol.
Y Cynghorydd Ken Watts yw'r maer newydd a phenodwyd y Cynghorydd John Spanswick yn ddirprwy faer.
Mae cyfarfod blynyddol y cyngor fel arfer yn cael ei gynnal ym mis Mai ond cafodd cyfarfod eleni ei ohirio oherwydd y pandemig coronafeirws.
Wrth dderbyn swydd y maer yn y cyfarfod ar Fedi 30, dywedodd y Cynghorydd Watts ei fod yn falch a'i fod yn anrhydedd iddo gael ei ethol i'r swydd.
Bydd fy mlwyddyn yn y swydd, wel dim ond wyth mis a dweud y gwir, yn fyrrach nag arfer ac yn amlwg bydd angen ei chynnal mewn ffordd hollol wahanol i'r hyn a brofwyd gan fy rhagflaenwyr.
O ystyried yr amgylchiadau, yr ydym i gyd yn ymwybodol iawn ohonynt, byddaf yn ymdrechu i gyflawni a hyrwyddo rôl a swydd y maer hyd eithaf fy ngallu trwy gefnogi digwyddiadau cymunedol lle bynnag a phryd bynnag y bo modd, gan gadw mewn cof bob amser yr angen i ni i gyd aros yn ddiogel yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.
O ran y pandemig credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd i osod esiampl i’n hetholwyr nid yn unig trwy gadw at y rheolau a dilyn cyngor ond yn bwysicach fyth, trwy weithio gyda’n gilydd i ddarparu’r llu o wasanaethau y mae’r awdurdod lleol hwn yn eu cynnig.
Cynghorydd Watts
Mae'r Cynghorydd Watts a oedd gynt yn ddirprwy faer, a'i gymar y Cynghorydd Julia Williams, wedi dewis cefnogi dwy elusen ar gyfer y flwyddyn ddinesig - Parkinson's UK a'r Gymdeithas Epilepsi.
Cyhoeddwyd Mrs Susan Spanswick yn gymar i'r Cynghorydd Spanswick.
Yn ogystal â chadeirio cyfarfodydd llawn y cyngor a chynrychioli'r cyngor a'r gymuned leol ar achlysuron ffurfiol a seremonïol, mae'r maer yn gweithredu fel llysgennad y fwrdeistref mewn ystod o ddigwyddiadau fel seremonïau dinasyddiaeth i breswylwyr sy'n cwblhau'r broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig a digwyddiadau ar gyfer sefydliadau elusennol/gwirfoddol.
Mae'r dirprwy faer yn gweithredu fel cynrychiolydd y maer ym mhob digwyddiad, gan gynnwys cadeirio cyfarfodydd y cyngor, yn absenoldeb y maer.