Mae trefniadau profi am coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Llun 20 Ebrill 2020
Mae trefniadau ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy'r bwrdd iechyd lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gyfer profi staff yr awdurdod lleol ac aelodau o’u cartref am COVID-19.
Ar hyn o bryd, mae'r profion ar gael ar gyfer unigolion sy'n dangos symptomau coronafeirws yn unig.
Mae gennym ddau lwybr gwahanol y gallwn gyfeirio staff neu aelodau o’u cartref ar eu hyd – mae safle profi Pencoed yn benodol ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn rolau gofal cymdeithasol, tra bo'r safle profi yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer aelodau eraill o staff y mae angen iddynt ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym er mwyn cyflawni swyddogaethau parhad busnes hanfodol.
Mae trefniadau profi yn parhau i ddatblygu ac mae newidiadau pellach ar y gweill.
Lle bo modd, rydym yn atgyfeirio pawb o fewn y meini prawf rydym wedi'u derbyn.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David