Mae Siôn Corn yn dod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr!
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2019
Mae Siôn Corn yn dod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr!
Mae’r Nadolig wedi dechrau! Mae Siôn Corn a’i ffrindiau, y ceirw a’r corachod, yn paratoi i ymuno yn holl hwyl yr ŵyl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eleni!
Dydd Gwener 22 Tachwedd:
- Eglwys Unedig Pen-y-bont ar Ogwr: I ychwanegu at yr hwyl a'r cyffro, mae grŵp codi arian Pen-y- bont ar Ogwr a Phorthcawl ar gyfer Marie Curie yn cynnal noson o grefftau, caneuon a lluniaeth yn Eglwys Unedig Pen-y-bont ar Ogwr. O 7:30pm tan 10:30pm bydd “Sounds Familiar”, grŵp canu corawl o Borthcawl, yn diddanu ymwelwyr wrth iddynt bori ymysg y stondinau crefftau Nadoligaidd.
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd:
- Nadolig Gwyn Pen-y-bont ar Ogwr: Bydd Siôn Corn a’i geirw yn hedfan i mewn ac yn mynd ar daith o amgylch canol y dref tua 11am ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd ac yn stopio y tu allan i Dŷ Carnegie, Stryd Wyndham. Bydd cyfle i dynnu hun-luniau cyn i'r groto agor am 12 hanner dydd tan 4pm. Bydd yn costio £6 i fynd i mewn i'r groto, sy’n cynnwys anrheg a chyfle i gael llun gyda Santa. Bydd Santa yno ddydd Sadwrn 30 Tachwedd hefyd, ac ar 7 ac 14 Rhagfyr. Gallwch archebu lle ymlaen llaw drwy Glwb Llewod Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl pnawn prysur yn y groto, bydd Siôn Corn yn ymuno â’r orymdaith drwy Ben-y-bont cyn rhoi goleuadau'r Nadolig ymlaen am 4.15 yng nghanol y dref.
- Groto Siôn Corn yn Nhŷ Carnegie: Peidiwch â phoeni os dydych chi ddim yn gallu ymuno yn yr hwyl ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd - bydd Siôn Corn yn ôl yn ei groto ar 30 Tachwedd, 7 Rhagfyr ac 14 Rhagfyr o 10am tan 4pm.
Dydd Gwener 29 Tachwedd:
- Gorymdaith Y Nadolig Porthcawl: Mae'r Nadolig yn dechrau ym Mhorthcawl yn swyddogol gyda Gorymdaith y Nadolig! Bydd yr hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn dechrau am 3.30pm gyda cherddoriaeth fyw, stondinau bwyd, reidiau i blant a llwyfan Bridge FM. Bydd yr orymdaith yn dechrau am 6pm ar ben Stryd John gyda Band Pres Porthcawl a bydd y dyn ei hun, Siôn Corn, hefyd yn ymddangos ac yn ymuno â ni ar y daith.
- Taith Nadolig Only Men Aloud Bydd Sophie Evans yn ymuno ag Only Men Aloud yn y Grand Pavilion ym Mhorthcawl sy’n un o'r lleoliadau ar gyfer eu taith drwy'r DU y gaeaf hwn!
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd:
- Gorymdaith y Nadolig Maesteg Yr orymdaith sy'n nodi bod y Nadolig wedi dechrau ym Maesteg! Bydd goleuadau’r Nadolig yn cael eu rhoi ymlaen am 4.30pm yng nghanol y dref a bydd sioe tân gwyllt i ddilyn!
- Santa Gwyrdd - Parc Gwledig Bryngarw: Dewch i weld yr unig Santa Gwyrdd yn Ne Cymru yn ei wisg werdd draddodiadol mewn lleoliad hudolus. Mae'r tocynnau’n costio £15 fesul plentyn a gall oedolion ymweld am ddim – rhaid archebu lle! Mae cyfle i wneud crefftau, i gyfarfod â Santa ac i gael anrheg unigryw gan y Santa Gwyrdd wedi'i gynnwys yn y pris.
Dydd Sul 1 Rhagfyr:
- Santa Gwyrdd – Parc Gwledig Bryngarw
O ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr ymlaen:
- Llwybr Ceirw Pren – Parc Gwledig Bryngarw: Mae Santa wedi colli ei geirw! Allwch chi ei helpu i ddod o hyd iddyn nhw? Ar 7, 8, 14 ac 15 Rhagfyr, dewch draw i Barc Gwledig Bryngarw am ddiwrnod o hwyl yn yr awyr agored i'r teulu i gyd. Ewch i gasglu eich map ac ychydig o fwyd i'r ceirw o'r ganolfan ymwelwyr ac wedyn i ffwrdd â chi ar hyd y llwybr i chwilio am y ceirw. Byddwch yn cael sticer am bob carw rydych chi’n dod o hyd iddo ac ar ôl i chi ddod yn ôl gallwch ysgrifennu a phostio llythyr i Santa! Cynhelir y digwyddiad o 11am tan 3pm ar y dyddiadau a nodwyd a bydd yn costio £3.50 fesul plentyn. Digwyddiad talu ar y diwrnod yw hwn, a hynny gydag arian parod yn unig.
Dydd Sul 8 Rhagfyr:
- Crefftau Glan Môr y Nadolig: Piciwch draw i Academi'r Traeth yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Rest rhwng 11am ac 1pm i lunio anrhegion ac addurniadau Nadolig o ddeunyddiau glan môr naturiol. Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer y teulu i gyd.
- Cracer Nadolig Porthcawl: Bydd y dathliadau yn parhau ym Mhorthcawl gyda'r digwyddiad Cracer Nadolig a fydd yn cael ei gynnal rhwng 11am a 4pm yn Stryd John, Maes Parcio Stryd John ac ar ffurf Gorymdaith. Bydd yno farchnad Nadolig, stondinau bwyd stryd, reidiau i blant, groto Siôn Corn, band pres Porthcawl a llawer mwy.
O ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr ymlaen:
- Pantomeim Snow White: O 14 Rhagfyr tan 5 Ionawr bydd un o ffefrynnau byd y pantomeim yn cael ei berfformio yn y Grand Pavilion ym Mhorthcawl - dewch draw!
Dydd Mercher 25 Rhagfyr:
- Digwyddiad Nofio Bore Nadolig: Cynhelir digwyddiad nofio bore Nadolig blynyddol Porthcawl am y 55fed tro yn Nhraeth Coney eleni. Bydd y digwyddiad eleni er budd elusen Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r thema fydd ‘Hel Atgofion’. Does dim rhaid i chi, ond beth am wisgo rhywbeth sy’n eich atgoffa o ryw ddigwyddiad Nadoligaidd yn y gorffennol sy’n sefyll allan yn eich cof? O 11am ymlaen, bydd sesiwn canu carolau yn nhafarn yr Hi-Tide gyda Solid Brass. Gall nofwyr gofrestru rhwng 10.45 a 11.15am, ac yna mae croeso i chi fentro i'r tonnau o 11.45am ymlaen!