Mae ' sgwâr y farchnad ' newydd yn agor ym marchnad dan do pen-y-bont
Poster information
Posted on: Dydd Iau 06 Chwefror 2020
Bydd masnachwyr a’r cyhoedd yn gallu defnyddio ardal ganolog y farchnad ar gyfer digwyddiadau arbenigol, adloniant teuluol a chyfleusterau chwarae i blant.
Mae’n rhan o brosiect parhaus i roi bywyd newydd i’r farchnad, sy’n cynnwys toiledau newydd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, gosodwyd cyfres o baneli esboniadol sy’n rhoi gwybodaeth am hanes cyfoethog y farchnad i groesawu cwsmeriaid - ac mae cloch y farchnad, sy’n dyddio’n ôl i 1837, wedi cael ei rhoi ym mhrif fynedfa’r farchnad.
Yn ogystal â hynny, mae toiledau newydd ar gyfer y cyhoedd yn cael eu hadeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Masnachwyr y Farchnad.
Mae sgwâr newydd y farchnad yn lle hyblyg i fasnachwyr ac i aelodau o’r cyhoedd. Disgwylir i’r gwaith orffen y penwythnos yma – bydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bydd socedi trydan ar gael i’w defnyddio.
Hefyd, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas masnachwyr a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu toiledau newydd.
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael sawl tenant newydd yn dod i’r farchnad ac ar ôl i’r gwaith orffen, byddwn yn dechrau ymgyrch marchnata fawr i lenwi unrhyw lefydd gwag.
Charles Smith, yr aelod cabinet dros Addysg ac Adfywio
Yn 2018, cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr system rhentu newydd a thelerau prydlesu hyblyg ar gyfer stondinwyr newydd, gyda’r stondinwyr presennol yn elwa o ostyngiadau sylweddol i’w rhent.
Fel rhan o’r gwaith ailwampio, tynnwyd y toiledau o'r llawr isaf er mwyn rhoi mannau storio ychwanegol i’r masnachwyr a’r stondinwyr.
Bydd y toiledau newydd yn agor ym mis Mawrth a byddant yn cael eu rhedeg gan y gymdeithas masnachwyr.
Bydd y toiledau wrth ymyl mynedfa gefn y farchnad, bydd un ohonynt yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac yn cynnwys cyfleusterau newid babanod.
Dywedodd Gordon Woodbridge sy’n rhedeg The Deli on the Corner, a chadeirydd y gymdeithas masnachwyr: “Mae angen moderneiddio’r farchnad – nid yw pobl yn dod i’r dref fel yr oedden nhw’n arfer gwneud.
“Y syniad yw, bydd y sgwâr newydd yn denu pobl i gymryd rhan mewn arddangosiadau gan fasnachwyr, ffeiriau crefftau a gwahanol ddigwyddiadau.
“Bydd byrddau a chadeiriau yno er mwyn i bobl eistedd i fwyta'r cinio maen nhw wedi’i brynu o’r farchnad.
“Rwy’n gobeithio y bydd y toiledau yn denu llawer o bobl i’r farchnad, bydd rhaid talu 30c i’w defnyddio a bydd yr arian hwn yn cyfrannu at eu cynnal a’u cadw.”
Mae Carol Daniel o ‘The Craft Cwtch’ yn bwriadu defnyddio’r man cymunedol newydd i gynnal dosbarthiadau crefft dau ddiwrnod yr wythnos.
Dywedodd Carol: “Rydyn ni eisoes wedi archebu'r lle ar gyfer dosbarthiadau crosio a gwau - bydd lle i rhwng 12 a 14 o bobl ym mhob dosbarth. Bydd hyn yn gwella nifer yr ymwelwyr a ddaw i’r farchnad.
Rwy’n gobeithio sefydlu grŵp gwau a sgwrsio ynghyd â dosbarth newydd i helpu’r genhedlaeth hŷn i ddeall technoleg yn well er mwyn iddyn nhw allu mynd ar-lein i weld y gwahanol batrymau sydd eu hangen arnyn nhw.
Ychwanegodd: “Bydd y toiledau’n gyfleuster gwych i’r farchnad – mae llawer o bobl hŷn a phobl anabl yn defnyddio’r farchnad a dydyn nhw ddim yn gallu defnyddio’r toiledau ar hyn o bryd.”